Mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn ffodus i fod yn gartref i Bwll Cenedlaethol Cymru Abertawe sy’n darparu ar gyfer sawl math o nofio ac sydd â phortffolio amrywiol o chwaraeon dyfrol, yn amrywio o ddechreuwyr llwyr i safon ryngwladol.

Mae Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe yn berchen ar ein pwll 50 medr o’r radd flaenaf, y gellir ei rannu’n ddau bwll gyda’i lawr symudol unigryw, sy’n caniatáu gwahanol ddyfnderoedd ac onglau llawr, sy’n wych ar gyfer nofio teuluol.

Mae gan y pwll nofio 50m 8 lôn apelgar a Phwll Hyfforddi 4 lôn 25m ar wahân seddau ar gyfer dros 1,000 o wylwyr, sy’n golygu ei fod yn gyfleuster perffaith i gynnal cystadlaethau a digwyddiadau. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys ystafelloedd newid, caffi a chyfleusterau cyfarfod, ynghyd ag ystod eang o wasanaethau chwaraeon hefyd.

CLICiWCH I BRYNU NAWR!


Pam Nofio  

Profwyd bod nofio’n cynnig amryw o fuddion gwych.

Os ydych yn dychwelyd i nofio neu’n ystyried rhoi cynnig ar nofio am y tro cyntaf, dyma rai o’r manteision y gallwch ddisgwyl eu gweld dros amser:

  • Cyweirio’r corff heb roi straen ar y cymalau
  • Ymarfer cardiofasgwlaidd ardderchog
  • Gwella eich cryfder a’ch ystwyther
  • Gwella stamina cyhyrol
  • Ateb cyflym ac effeithiol ar gyfer gwella cyhyrau a gwella o anafiadau
  • Helpu i reoli pwysau – mae nofio’n llosgydd calorïau gwych (ar gyfartaledd, byddwch yn llosgi 3 calori y filltir fesul pwys o bwysau corff)
  • Gellir ei wneud ar eich pen eich hun neu gyda’ch teulu a’ch ffrindiau
  • Gall nofio leihau pwysedd gwaed

Pwll Hyfforddi 25m a phwll rhanedig 23m ar 1.25m – cymarebau oedolion/plant

Dan 4oed
4oed – dan 8oed
8oed+
un oedolyn i un plentynun oedolyn i ddau blentynnid oes angen cwmni oedolion

Rhaid i blant rhwng 8 ac 11 oed basio prawf pwll 50m cyn cael mynediad i’r pwll 50m neu’r 25m hollt oherwydd dyfnder y dŵr.