Mae’r rhai hynny yn ein plith sy’n mynd i’r gampfa yn gwybod sut brofiad yw colli momentwm weithiau oherwydd bod y gampfa’n colli’i chyffro. Felly, rydym ni yma i’ch helpu i aildanio’r awydd hwnnw am fynd i’r gampfa – os ydych chi eisiau gwybod sut i gadw’r cyffro i fynd yn y gampfa, darllenwch ein hawgrymiadau isod.

1. Peidiwch â chymharu eich hun ag eraill

Mae’n rhwydd cymharu eich hun ag eraill, yn enwedig mewn amgylchedd campfa, ond os bydd hyn yn troi’n arfer gall eich digalonni. Mae’r ffordd y byddwch chi’n siarad â chi’ch hun yn cael effaith fawr ar eich hunanddelwedd. Pan fyddwch yn deffro bob bore, dywedwch rywbeth caredig wrthych chi’ch hun. Gall hyn fod yn haws dweud na gwneud a does dim rhaid iddo fe fod am y ffordd rydych chi’n edrych, gall fod am unrhyw beth. Ydych chi’n falch o’r amser y gwnaethoch chi ddeffro bore ‘ma? Y ffaith eich bod chi bob amser yn gwenu ar  bawb sy’n mynd heibio? Y ffordd rydych chi’n gofalu am eich croen? Mae’r rhestr yn parhau. Mae’n bwysig cofio eich bod chi’n gwneud y gorau y gallwch chi, ac mae cysondeb yn allweddol!

2. Hyfforddi gyda ffrindiau

Er bod yn well gan rai pobl fynd i sesiynau yn y gampfa ar eu pennau eu hunain, gall hyfforddi gyda phartner neu grŵp o ffrindiau fod yn hwyl. Efallai y byddwch chi’n rhyddhau mwy o endorffinau na phan fyddwch chi’n gweithio ar eich pen eich hun. Mae gennym ni ddigon o ddosbarthiadau ar eich cyfer gyda phobl rydych chi am wneud ymarfer corff gyda nhw, boed yn Evolve Cycle, HIIT, Ioga neu Bilates, neu gallwch chi wahodd pobl i ymuno â’ch sesiwn reolaidd yn y gampfa. Mae gennym ni’r lleoliad perffaith am sesiynau grŵp yn ein dwy gampfa, a drychau mawr i gymryd hunluniau o’r grŵp! Awgrymiadau euraidd ar gyfer mynd i’r gampfa gyda ffrindiau: sicrhewch y byddant yn eich ysgogi ac yn cadw pethau’n gadarnhaol!

3. Dod o hyd i sesiwn ymarfer corff sy’n gweithio ar gyfer eich personoliaeth chi

Weithiau, mae’n anodd dod o hyd i arferion ymarfer corff sy’n gweithio i chi. Os na allwch chi ddod o hyd i raglen rydych chi’n ei hoffi, beth am ystyried yr hyn rydych chi’n ei hoffi a beth sy’n gas gennych? Er enghraifft, a yw’n well gennych chi fynd i’r gampfa gyda ffrind, aelod o’r teulu neu gydweithiwr, neu a yw’n well gennych chi wneud ymarfer corff ar eich pen eich hun? Pa fath o ymarferion ydych chi’n eu hoffi – ydych chi’n hoffi gweithio ar lefel ddwys, megis dosbarthiadau HIIT, neu a fyddai’n well gennych gymryd pethau’n arafach, a nofio ym Mhwll Cenedlaethol Cymru?

Os yw’n cymryd ychydig  amser i chi ystyried yr hyn rydych chi’n ei hoffi a ddim yn ei hoffi, cofiwch y gallwch chi drefnu taith dywys anffurfiol o amgylch ein campfeydd a byddwn yn hapus iawn i siarad â chi am raglenni hyfforddi addas. Os yw hyn yn swnio’n ddelfrydol i chi, peidiwch ag oedi wrth gysylltu ag aelod o’r tîm.

4. Ceisiwch fanteisio ar eich cryfderau

Os ydych chi gartref, yn y gwaith neu yn y gampfa, mae’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi gwneud pethau y gallant eu gwneud yn dda. Efallai fod gennych chi lai o ddiddordeb mewn rhoi cynnig ar bethau nad ydynt yn dod yn naturiol i chi. Yn aml, byddwch yn gwneud mwy o ymarfer corff yn amlach os ydych chi’n hyderus yn eich gallu. Er enghraifft, os ydych chi’n teimlo ‘nad oes rhythm’ gennych, efallai fyddwch chi byth am ddawnsio. Ar y llaw arall, os ydych chi’n gryf iawn, efallai fod codi pwysau’n teimlo’n well i chi. Ceisiwch fanteisio ar eich cryfderau oherwydd bydd hyn yn cadw’r gampfa’n gyffrous i chi, a chofiwch wneud pethau i gael bach o hwyl hefyd – mae bywyd llawer yn rhy fyr i fod yn ddifrifol drwy’r amser.

5. Ceisiwch ystyried ymarfer corff fel gwobr ar ddiwrnodau da a drwg

Gall ystyried ymarfer corff fel gwobr gymryd amser. Drwy hynny, rydym ni’n golygu peidio ag ystyried ymarfer corff i fod yn gosb am ‘beidio â bod ar y trywydd iawn’ – does dim y fath beth â phenwythnos gwael. Mae ffordd iach o fyw yn golygu cael cydbwysedd. Hefyd, bydd y gampfa yn parhau i deimlo fel rhywbeth cyffrous os byddwch chi’n ei hystyried fel gwobr. Wedi cael diwrnod a fu’n anodd yn feddyliol? Lawr i’r gampfa te, i gael rhyddhau’r holl endorffinau hynny. Wedi cael diwrnod braf ac eisiau teimlo hyd yn oed yn well? Ewch i’r gampfa a gorffen ar uchafbwynt. Gall newid eich ffordd o feddwl am fynd i’r gampfa helpu i gadw pethau’n ddiddorol ac yn gyffrous i chi.

6. Trowch y sŵn i fyny

Mae’n bosib mai dyma’r ffordd hawsaf o roi hwb yn syth wrth wneud ymarfer corff. Nage dim ond ni sy’n mwynhau’r gampfa’n fwy gyda cherddoriaeth. Mae’n gallu bod yn hwyl, yn enwedig os yw’r gerddoriaeth yn gyflym, gan roi hwb i’ch hwyliau a’ch lefelau egni! Chwiliwch am “160 bpm” neu “180 bpm” ar Spotify i ddod o hyd i ganeuon addas – mae hyn yn wych os ydych chi eisiau cerddoriaeth sy’n mynd gyda’ch cyflymder rhedeg. Neu, os ydych chi’n cynllunio sesiwn dawelach ac mae angen rhestr chwarae bersonol arnoch, beth am chwilio am sesiwn fyfyrio sy’n ysgogi?

7. Gall newid wneud daioni

Hyd yn oes os byddwch chi’n canfod sesiwn ymarfer corff rydych chi’n ei mwynhau, mae hi dal yn bwysig i chi newid pethau’n rheolaidd, i sicrhau bod y gampfa’n parhau i fod yn gyffrous. Gall hynny olygu rhoi cynnig ar beiriannau newydd yn y gampfa, megis rhwyfo yn lle’r grisiau, codi mwy o bwysau, neu wneud cylchedau, mae llai o siawns y byddwch chi’n diflasu. Yn aml, mae mwy o amrywiaeth yn golygu y byddwch chi’n mwynhau mwy, felly peidiwch â bod ofn cyflwyno amrywiaeth i’ch arferion cymaint â phosib, a gobeithio y bydd hyn yn golygu y bydd y gampfa’n parhau i fod yn gyffrous i chi.

Gobeithio bod hyn wedi helpu i roi awgrymiadau defnyddiol i chi ar sut i gadw pethau’n gyffrous yn y gampfa. Os ydych chi’n meddwl am gofrestru ar gyfer y gampfa ond heb wneud eto, cliciwch yma i bori’r opsiynau aelodaeth.