Sefydlwyd Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn 2020 pan ddaeth ein partneriaid; Prifysgol Abertawe, Cyngor Abertawe, Chwaraeon Abertawe a Phwll Cenedlaethol Cymru Abertawe ynghyd.

Yn hanesyddol, roedd y partneriaid ar yr un pryd yn llywodraethu’r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol enwog a Phwll Cenedlaethol Cymru Abertawe. Ond er mwyn darparu’r cyfleusterau a’r gwasanaeth gorau posibl i chi, ganwyd Parc Chwaraeon Bae Abertawe.

Rydym ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe yn ymfalchïo yn ein hymroddiad a’n hymrwymiad i chwaraeon ac yn annog byw’n egnïol i bawb o ddechreuwyr i athletwyr elît. P’un ai eich nod yw bod yn heini ac yn iach, cynnal eich iechyd a’ch ffitrwydd neu ddatblygu ymhellach i fod yn athletwr elît, rydym yma i’ch cefnogi.

Mae ein cyfleusterau o’r radd flaenaf yn cynnwys pwll cenedlaethol 50m a 25m, trac athletau, caeau, campfa a llawer mwy! Tra bod ein cyfleusterau Campws y Bae yn cynnwys neuadd chwaraeon uchder llawn, ardal gemau aml-ddefnydd (MUGAs) a champfa. Ynghyd ag ystod o opsiynau aelodaeth a dosbarthiadau ffitrwydd i weddu i chi; a a staff ardderchog, gwybodus a chyfeillgar wrth law, mae gan Barc Chwaraeon Bae Abertawe bopeth sydd ei angen arnoch i’ch helpu i gyrraedd eich nodau iechyd a ffitrwydd, a hynny’n unigol neu fel rhan o dîm.