Clybiau Chwaraeon Perfformiad Uchel

Mae gennym grŵp dethol o chwaraeon sy’n rhan o raglen chwaraeon perfformiad uchel y brifysgol. Mae gan bob camp perfformiad uchel bennaeth ffrwd ymroddedig sy’n gweithio’n agos gyda’r hyfforddwyr i roi pob cyfle i athletwyr gyflawni perfformiad ar y lefel uchaf. Mae ein chwaraeon perfformiad uchel hefyd yn derbyn; gwasanaethau gwyddor chwaraeon, rheoli ffordd o fyw athletwyr, ffisiotherapi a chymorth cryfder a chyflyru.

Mae ein timau wedi llwyddo yng nghystadlaethau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS), ac mae athletwyr unigol wedi bod yn fuddugol ar lefel prifysgol, cenedlaethol a rhyngwladol. Gyda llawer o’r clybiau perfformio uchel mae cyfle i gystadlu yn system ddomestig Cymru/Prydain yn eu campau priodol.

Pel-droedMae gan y clwb pel-droed i ddynion chwe thim, pedwar ohor yng nghynghrair BUCS a’r ddau arall yng Nghynghrair Fewnol Abertawe.
Mae yna hefyd dîm Sadwrn, wedi’i sefydlu gan gyn-fyfyrwyr y clwb gyda’r nod o chwarae pêl-droed Cynghrair Cymru.
Mae digwyddiadau cymdeithasu wythnosol ar gyfer y clwb, ac mae gan y clwb gysylltiadau cryf â’r gymuned leol, gyda nifer o ddigwyddiadau elusennol, codi arian a sesiynau gwirfoddoli.
Mae’r tîm pêl-droed i fenywod yn garfan hynod gystadleuol a brwdfrydig, gyda dau dîm yn cystadlu yn BUCS a chystadlaethau eraill.
Mae gan y clwb hyfforddwr ffitrwydd ac mae’n trefnu digwyddiadau fel cymdeithasu a chystadlaethau pum bob ochr.
Mae Pêl-droed Mewnol Prifysgol Abertawe yn cynnwys 19 o dimau sy’n cystadlu ar ffurf cynghrair yn ystod y flwyddyn academaidd. Y gynghrair bellach yw’r clwb neu gymdeithas fwyaf yn y Brifysgol.
Mae Cwpan Cynghrair Fewnol hefyd, a dewisir carfan ddethol o chwaraewyr ar ddiwedd y tymor i wynebu Cynghrair Pêl-droed Fewnol Prifysgol Caerdydd yn Varsity Cymru.
Pêl-droed dynion Cliciwch ar gyfer tudalen clwb
Pêl-droed merched Cliciwch ar gyfer tudalen clwb
Mae pêl-droed dynion yn cynnig rhaglen berfformiad uchel.
HociMae Clwb Hoci Dynion Prifysgol Abertawe yn croesawu aelodau, o gemau rhyngwladol i ddechreuwyr. Fe’i sefydlwyd yn 1920 fel un o’r chwaraeon sefydlol yn y Brifysgol, ac erbyn hyn mae ganddi bedwar tîm a chymuned gymdeithasol fawr.
Mae digwyddiadau rheolaidd yn cynnwys taith Pasg, sydd wedi ymweld â Chroatia a Chatalonia yn y gorffennol; ‘Penwythnos yr Hen Fechgyn’, pan fydd mwy na 100 o gyn-chwaraewyr yn dychwelyd i gystadlu yn nathliad Old Boys mwyaf Chwaraeon Abertawe; a’r gêm Varsity flynyddol yn erbyn Prifysgol Caerdydd.
Mae Clwb Hoci Merched Prifysgol Abertawe hefyd ar gyfer pob gallu ac mae ganddo bedwar tîm yn cystadlu yng nghystadlaethau BUCS, a phumed tîm yn chwarae gemau cyfeillgar achlysurol, fel cyfle i newydd-ddyfodiaid.
Bu teithiau yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn ymweld â Croatia, Sbaen, yr Iseldiroedd, a’r Eidal.
Hoci yn cynnig rhaglen berfformiad uchel.
Pêl-rwydMae Clwb Pêl-rwyd Prifysgol Abertawe yn cynnwys tri thîm sy’n chwarae yng nghystadlethau BUCS, a phedwerydd tîm mewn cynghrair leol yn Abertawe.
Ceir hefyd gynghrair bêl-rwyd fewnol a digwyddiadau cymdeithasol wythnosol, yn ogystal ag ymgyrchoedd codi arian ar gyfer elusennau lleol. Mae’r clwb yn trefnu taith yn ystod gwyliau’r Pasg, ac yn croesawu aelodau newydd, boed â diddordeb mewn hyfforddi, dyfarnu, chwarae neu gymdeithasu.
Cliciwch ar gyfer tudalen clwb
Rygbi UndebMae gan Glwb Rygbi Prifysgol Abertawe bedwar tîm dynion yn cystadlu mewn gemau BUCS a’r gêm Varsity flynyddol yn erbyn Prifysgol Caerdydd.
Mae’r Barbariaid XV yn chwarae yn erbyn timau lleol ac mae dau dîm yng Nghynghrair y Freshers Cymreig. Gall y clwb dderbyn chwaraewyr o unrhyw safon – efallai y bydd gan rai yn y XV 1af gontractau lled-proffesiynol tra gallai eraill fod yn codi pêl am y tro cyntaf.
Mae’r clwb rygbi merched yn croesawu darpar chwaraewyr, waeth beth fo’u cefndir chwaraeon, lefel sgiliau, neu brofiad.
Mae chwaraewyr y clwb wedi mynd ymlaen i chwarae’n rhyngwladol, ac mae aelodau o’r garfan bresennol wedi chwarae safon ranbarthol neu rygbi uwch.
Mae Rygbi’r Undeb yn un o’r chwaraeon perfformiad uchel yr. 
NofioMae’r tîm yn darparu ar gyfer nofwyr o wahanol alluoedd, o’r rhai sydd am hyfforddi a rasio ar lefel gystadleuol i’r rhai sydd am gadw’n heini a bod yn gymdeithasol.
Mae’r tîm wedi tyfu o ran maint a chryfder, gan ganiatáu iddo fynd â thri thîm i bencampwriaeth BUCS, yn ogystal ag anfon nofwyr i bencampwriaethau BUCS unigol cwrs hir a byr.
Mae’r tîm hefyd yn trefnu digwyddiadau cymdeithasu a chodi arian rheolaidd drwy gydol y flwyddyn.
Cliciwch ar gyfer tudalen clwb neu cliciwch yma ar gyfer
Tennis BwrddMae gan y clwb dîm gwrywaidd a benywaidd yng nghystadlaethau BUCS ac mae’n croesawu chwaraewyr o bob gallu.
Cliciwch ar gyfer tudalen clwb

Pob Camp Arall

Mae gan Chwaraeon Abertawe amrywiaeth enfawr o glybiau chwaraeon cystadleuol a chlybiau chwaraeon nad ydynt yn gystadleuol. Myfyrwyr yw calon popeth a wnawn yn Chwaraeon Abertawe. Drwy ein dewis enfawr o glybiau a chyfleoedd eraill, ein nod yw creu awyrgylch sy’n ei gwneud yn hawdd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn chwaraeon.

Mae ein timau’n cystadlu yng nghystadlaethau BUCS (Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain), cystadlaethau lleol, cystadlaethau chwaraeon-benodol neu’n chwarae mewn cynghreiriau mewnol nad ydynt yn gystadleuol. 

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd noddi hyn, cysylltwch â Sadie Mellalieu – S.I.Mellalieu@Swansea.ac.uk a Rhian Walters – R.A.Walters@Swansea.ac.uk