Mae Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe yn credu bod dysgu nofio a chadw’n heini yn bwysig i bob oedran ac adlewyrchir hyn yn ein Rhaglen Ysgol Ddŵr gynhwysfawr.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o wersi nofio a dosbarthiadau dyfrol sy’n darparu ar gyfer pobl o bob oed a gallu.

Mae ein staff Ysgol Ddŵr yn athrawon a hyfforddwyr cymwys a phrofiadol iawn sy’n dilyn fframwaith “Dysgu Nofio Cymru” (LTSW) Nofio Cymru a Chynllun Cymwysterau’r Gymdeithas Achub Bywyd Brenhinol (RLSS).

Amodau a Thelerau’r Ysgol Ddŵr

Derbyn Amodau a Thelerau

  • Wrth archebu, neu wrth fynychu gwers nofio gyda ni, rydych yn derbyn yr amodau a thelerau hyn a byddant yn ffurfio cytundeb rhyngom.
  • Byddwch yn sicrhau bod unrhyw blant sy’n dod gyda chi i’r pwll nofio yn dilyn y rheolau a osodir yn yr amodau a thelerau hyn.
  • Petai cwsmer yn methu glynu at y telerau ac amodau hyn, efallai y gofynnir i’r cwsmer ddirwyn y gwersi gyda Phwll Cenedlaethol Cymru Abertawe Cyf i ben.
  • Cedwir yr hawl i newid yr amodau a thelerau hyn ar unrhyw adeg. Cewch wybod am newidiadau drwy e-bost.

Archebu

  • Yn y lle cyntaf, mae gwersi yn cael eu harchebu dros y ffôn neu wyneb yn wyneb a chymerir taliad ar adeg archebu.

Taliad

  • Rhaid talu am bob gwers ymlaen llaw un ai mewn blociau neu drwy ddebyd uniongyrchol. Bydd cost eich gwers(i) yn cael ei chadarnhau wrth ichi archebu.

Taliad Ymlaen Llaw

  • Mae gwersi grŵp yn daladwy mewn blociau o 12. Byddwch yn derbyn hysbysiad e-bost drwy GoLearn 3, 2 ac 1 wythnos cyn diwedd y 12 wythnos. Bydd methu â thalu am y bloc nesaf yn golygu y byddwch chi/eich plentyn yn gadael y dosbarth yn syth ar ôl y wers flaenorol.
  • Mae gwersi preifat yn daladwy mewn blociau o 6. Byddwch yn derbyn hysbysiad e-bost drwy GoLearn 3, 2 ac 1 wythnos cyn diwedd y 12 wythnos. Bydd methu â thalu am y bloc nesaf yn golygu y byddwch chi/eich plentyn yn gadael y dosbarth yn syth ar ôl y wers flaenorol.

Debyd Uniongyrchol

  • Mae taliadau drwy ddebyd uniongyrchol ar gael ar gyfer gwersi grŵp a gwersi preifat. Mae’r debyd uniongyrchol misol yn seiliedig ar nifer y gwersi dros y flwyddyn wedi ei rannu â 12, gan gynnwys dyddiau lle na ellir cynnal gwers oherwydd seibiannau i’r rhaglen a digwyddiadau. Felly, ni fydd angen rhoi ad-daliad.
  • Mae taliadau debyd uniongyrchol yn daladwy fis ymlaen llaw ac fe’i cymerir ar y 1af o’r mis (neu’r diwrnod gwaith cyntaf wedi hynny).
  • Mae angen taliad cyntaf pan delir drwy ddebyd uniongyrchol er mwyn cynnwys y gwersi hyd at pan ellir cymryd y debyd uniongyrchol cyntaf (pan archebir gwersi ar neu ar ôl y 5fedo’r mis bydd hyn yn cynnwys swm pro rata am y mis hwnnw a’r mis cyfan ar ôl hynny).
  • Gallwch ganslo’r cytundeb yn fuan o fewn y cyfnod cychwynnol ”ailfeddwl” yn syth ar ôl prynu.
  • Os dymunwch ganslo eich debyd uniongyrchol ar ôl y cyfnod “ailfeddwl” 14 diwrnod, gallwch wneud hynny gyda 30 diwrnod o rybudd ysgrifenedig erbyn y  10fed o bob mis.
  • Mae gwersi Swigod, Sblash a Thonnau 1-5 yn 30 munud o hyd ac mae Tonnau 6,7 ac 8 yn 40 munud o hyd. Mae’r holl wersi oedolion yn 30 neu 40 munud o hyd. Pan fydd plentyn yn symud o wersi 30 munud i 40 munud, bydd cynnydd yn y debyd uniongyrchol misol a phris gwersi bloc.

Cau’r Pwll a Chanslo

  • Petai’r pwll yn cau neu’r wers yn cael ei chanslo, byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost cyn gynted ag y bo modd. Sicrhewch fod eich manylion cyswllt i gyd yn gyfredol.
  • Bydd gwersi yn cael eu canslo pan fydd PCCS yn cynnal digwyddiadau mawr. Bydd PCCS yn rhoi rhybudd digonol am y digwyddiadau hyn. Gellir gweld manylion digwyddiadau sydd ar y gweill ar y faner ar y Porth Cartref.
  • Mae’r Rheolwr Cyffredinol yn cadw’r hawl i newid y rhaglen ar fyr rybudd. Bydd unrhyw newidiadau yn tarfu cyn lleied â phosib a bydd credyd/ad-daliad yn cael eu cynnig pan fydd PCCS yn canslo (ar wahân i’r rhai oherwydd digwyddiadau neu seibiannau i’r rhaglen gan fod hyn wedi’i ystyried ym mhris y gwersi).

Canslo/Rhewi eich Gwersi

  • Pe dymunech ganslo eich gwersi nofio byddwn angen i chi roi 4 wythnos o rybudd eich bod yn canslo. Dylid canslo gwersi nofio drwy anfon e-bost i: wnp@swansea.ac.uk.
  • Yn anffodus, ni allwn rewi eich gwersi na chadw lle i chi os na allwch fynychu am gyfnod o amser.
  • Rhoddir ad-daliadau pan roddir 4 wythnos o rybudd yn unig, oni bai bod plentyn yn symud i fyny Ton ac nad yw’n gallu mynychu ar y dyddiau a’r amseroedd sydd ar gael. Yn yr achos hwnnw, bydd y plentyn yn cael ei ychwanegu at y rhestr aros briodol a gellir awdurdodi ad-daliad.
  • Fel arall, gallwch adael gwersi pan roddir 4 wythnos o rybudd ynghyd â chredyd ar eich cyfrif i’w ddefnyddio ar gyfer archeb yn y dyfodol.

Salwch a Chyflyrau Meddygol

  • Os ydych chi/yw eich plentyn yn teimlo’n sâl, fe’ch cynghorwn i beidio mynychu gwersi nofio.
  • Ni ddylai mynychwyr gwersi sydd â salwch heintus fynychu gwersi am gyfnod o 48 awr ar ôl i’r symptomau glirio. Mae hyn yn hynod o bwysig os ydych wedi bod yn taflu i fyny neu’n dioddef o ddolur rhydd.  
  • Petai chi/eich plentyn yn ymddangos yn sâl yn ystod gwers, cedwir yr hawl i ganslo’ch gwers.
  • Ni all Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe gynnig ad-daliadau am wersi a gollir oherwydd salwch nac unrhyw reswm arall.
  • Dylech ein hysbysu o unrhyw gyflyrau meddygol wrth archebu. Dylech hysbysu Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe o unrhyw gyflyrau newydd a all effeithio ar eich plentyn cyn gynted ag y bo modd.

Polisïau Addysgu, Gweithdrefnau a Chyfrifoldebau Rhieni

  • Mae holl wersi Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe yn cael eu dysgu gan athrawon gyda chymwysterau addas.
  • Mae’r holl athrawon wedi cwblhau gwiriad DBS manwl a hyfforddiant diogelu.
  • Petai athro/awes yn methu mynychu gwers, fe wnawn ein gorau i ddod o hyd i athro/awes arall.
  • Petai athro/awes yn methu dysgu ar fyr rybudd, cedwir yr hawl i gyfuno dosbarthiadau petai’n briodol a diogel er mwyn sicrhau nad yw nofwyr yn methu gwers. Ni fydd dosbarthiadau yn cael eu cyfuno petai hyn yn golygu bod maint y dosbarth yn fwy na’r hyn a nodir yng nghanllawiau Dysgu Nofio Cymru, Nofio Cymru.
  • Er ein bod yn ceisio darparu cysondeb athro/awes i bob dosbarth, ni allwn warantu y byddwch/bydd eich plentyn yn cael yr un athro/awes bob wythnos.
  • Dim ond yn ystod y wers nofio mae’r athrawon yn gyfrifol am ddisgyblion a rhieni/gwarcheidwaid/gofalwyr sy’n gyfrifol ar adegau eraill. Mae’r wers nofio yn dechrau pan mae’r athro/awes nofio yn derbyn cyfrifoldeb am y disgyblion ac yn gorffen pan mae’n amser gorffen y wers.
  • Rhaid i rieni/gwarcheidwaid/gofalwyr aros ar y safle tra mae’r disgybl yn ei wers. Mae hyn yn hollbwysig rhag ofn, yn yr achos annhebygol, y bydd argyfwng meddygol, angen gwacau adeilad neu argyfwng arall.
  • Ni ddylai rhieni/gwarcheidwaid/gofalwyr dynnu sylw athro/awes nofio yn ystod gwers. Petaech yn dymuno cael sgwrs â’r athro/awes, gellir gwneud hyn yn ystod y seibiannau rhwng gwersi neu drwy e-bostio wnp@swansea.ac.uk. Gellir monitro cynnydd yn y porth cartref.

Rheolau Cyffredinol y Pwll a Chod Gwisg

  • Cynghorir nofwyr i gymryd cawod, defnyddio’r toiled, a chwythu eu trwyn cyn dechrau’r wers.
  • Ni ddylai nofwyr/rhieni/gwarcheidwaid/gofalwyr wisgo esgidiau wrth ochr y pwll.
  • Dylid gwisgo dillad addas bob amser. Rhaid gwisgo esgidiau tu allan i neuadd y pwll a’r pentref newid.
  • Mae’n rhaid i’r dillad a wisgir yn y pyllau fod wedi eu cynllunio ar gyfer hynny, neu eu bod yn cael eu defnyddio ar gyfer y pwll nofio’n unig ac yn addas i bwrpas, wedi eu gwneud o ddefnydd addas, yn weddus, yn hylan, diogel a ddim yn rhoi defnyddwyr eraill mewn perygl.
  • Dylai nofwyr glymu gwallt hir yn ôl neu wisgo cap nofio addas.
  • Gall plant wisgo gogls nofio; fodd bynnag, efallai y bydd athrawon yn gofyn iddynt dynnu gogls yn ystod rhai gweithgareddau penodol.
  • Ni ddylai nofwyr/rhieni/gwarcheidwaid/gofalwyr fynd at ochr y pwll fwy na 5 munud cyn dechrau eu gwers.
  • Ni ddylai nofwyr fynd i’r dŵr cyn iddynt gael gwahoddiad gan eu hathro/awes.
  • Dylai’r nofwyr adael y pwll unwaith mae’r athro/awes wedi gorffen y wers.
  • Ni ddylai neb redeg wrth ochr y pwll o gwbl.
  • Diogelwch ein nofwyr yw’r brif flaenoriaeth. Gofynnir i unrhyw un nad yw Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe yn eu hadnabod, sy’n methu darparu dull adnabod ac sy’n peri pryder mewn perthynas â diogelwch, adael y safle.
  • Nid oes modd trosglwyddo unrhyw archeb. Dim ond y person a enwir ar y gofrestr sy’n cael mynychu’r wers. Mae hyn yn berthnasol i wersi grŵp a gwersi preifat.
  • Mae Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i’r pwll nofio neu ofyn i rywun adael gwers/y pwll pe teimlir eu bod yn fygythiad i’w diogelwch eu hunain neu eraill.

Cynnydd Disgybl a Bathodynnau

  • Mae pob nofiwr yn cael eu dysgu a’u hasesu yn unol â System Gwobr a Gwers Dysgu Nofio Cymru, Nofio Cymru.
  • Bydd athrawon yn asesu cynnydd disgybl yn barhaus.
  • Bydd y cynnydd yn cael ei gofnodi ar dabledi wrth ochr y pwll a gall nofwyr/rhieni/gwarcheidwaid/gofalwyr gael mynediad i’r wybodaeth drwy’r porth cartref (bydd y porth yn cael ei ddiweddaru ar ddiwedd y rhaglen wersi ddyddiol).
  • Bydd cynnydd y nofwyr yn ôl disgresiwn yr athro/awes.
  • Bydd athro/awes yn hysbysu rhieni/gwarcheidwaid/gofalwyr drwy’r porth pan fydd plentyn yn barod i symud i fyny a gall rhieni/gwarcheidwaid/gofalwyr reoli’r symud i’r Don nesaf drwy’r porth cartref.
  • Oherwydd natur raddedig barhaus ein gwersi, efallai na fydd lle gwag ar gael yn syth pan mae eich plentyn yn barod i symud i fyny.

Gwersi a Gollir

  • Byddai Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe yn gwerthfawrogi petaech yn gallu ei hysbysu os yw eich plentyn yn mynd i fod yn absennol.
  • Ni allwn gynnig ad-daliad am unrhyw wers a gollir am ba bynnag reswm.
  • Ni allwn gynnig gwers yn lle’r un a gollir gan y gallai hyn olygu bod maint ein dosbarthiadau yn uwch na’r hyn a ganiateir.

Maes Parcio

  • Mae’n rhaid i yrrwyr lynu wrth y cyfyngiad cyflymder o 15mya ym maes parcio PCCA.
  • Mae’n rhaid i gerbydau gael eu parcio mewn lleoedd parcio penodol PCCA ac arddangos tocyn dilys neu drwydded barcio.
  • Y ffioedd parcio yw 50c hyd at 2 awr ac yna £1.00 ar gyfer 2 – 4 awr. Dim ond ag arian y gellir talu ac mae angen y swm cywir. Nid oes newid ar gael yn nerbynfa Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe.
  • Ni chaniateir parcio/aros yn y lleoedd Cerbydau Argyfwng, na’r iard gwasanaeth yn y cefn, ar y palmentydd, ymylon y ffyrdd na llinellau melyn dwbl.

Cwynion

Dylid cyflwyno unrhyw gwynion, yn ysgrifenedig, cyn gynted â phosibl i wnp@swansea.ac.uk.

Y Blynyddoedd Cynnar
SwigodSblash
Mae 4 lefel o gynnydd yn Swigod, gyda sgiliau dyfrol yn datblygu’n raddol drwy gydol pob lefel.

Dysgir oedolion cyfrifol sut i gefnogi’r plentyn drwy gemau, caneuon a gweithgareddau hwyliog ar themâu. Mae tystysgrif ar gael ar gyfer pob lefel rydych yn cwblhau’n llwyddiannus.
Mae’r fframwaith Sblasio yn annog plant ifanc i ddarganfod yr amgylchedd dyfrol yn gynyddol annibynnol a dan arweiniad er mwyn datblygu hyder dŵr, wedi’i anelu’n benodol at blant 3+ oed.

Mae 6 lefel o ddilyniant yn Sblasio, gyda sgiliau dyfrol yn datblygu’n raddol drwy gydol pob lefel, gyda’r plentyn yn dod yn fwyfwy annibynnol yn y dŵr.
Dechreuwyr
7 +
Yma yn WNPS, gwnaethom gydnabod amser maith yn ôl, yn gyffredinol, nid yw plant 7+ oed eisiau dysgu mewn gwersi ochr yn ochr â phlant 4-6 oed. Yn union fel yn yr ysgol – maent eisiau cael hwyl a dysgu nofio gyda phlant eu hoedran eu hunain, ar gyflymder sy’n cyd-fynd â’u hoedran deallusol. Mae ein hathrawon yn cydnabod hyn hefyd, a dyna pam mae ein gwersi’n hwyl ac yn addas ar gyfer oedran, tra’n parhau i ystyried pryderon hyder posibl. Nid yw dechreuwyr 7+ yn rhan o’r Fframwaith Dysgu nofio presennol, fodd bynnag, mae’n gyfuniad o Donnau 1-3.

*Sylwch fod angen i’ch plentyn fod yn 1.25m o daldra i fynychu

Ton 1
Nodau
1. Datblygu hyder yn y dŵr
2. Bod yn ddiogel tra yn y dŵr, ac wrth fynd i mewn ac allan o’r pwll
3. Dysgu technegau arnofio, rhodli ac anadlu sylfaenol
4. Dechrau dysgu nofio yn eich blaen, nofio ar eich cefn ac un ai
strôc frest neu bili pala, gyda chymhorthion os oes angen
Ton 2Nodau
1. Gallu neidio i’r pwll
2. Gwella technegau rhodli, arnofio ac anadlu
3. Llithro gyda’ch corff mewn ystum lliflin
4. Nofio pellteroedd byr o nofio yn eich blaen, nofio ar eich cefn ac un ai strôc frest neu bili pala, heb gymhorthion
Ton 3Nodau
1. Casglu gwrthrych o lawr y pwll
2. Gwella rhodli ac arnofio
3. Dysgu sut i droedio dŵr
4. Dysgu’r Cod Diogel
5. Nofio pellteroedd byr yn gwneud bob un o’r pedair strôc: nofio yn eich blaen,
nofio ar eich cefn, strôc flaen a phili pala, heb gymorthion
Ton 4Nodau
1. Dysgu sut i wneud ciciau dolffin dan ddŵr
2. Dysgu’r ystum HELP
3. Gwella technegau arnofio a throedio dŵr
4. Gwella techneg pob un o’r pedair strôc
Ton 5Nodau
1. Dysgu neidiau siapiau gwahanol
2. Dysgu sut i wneud trosben ymlaen a sefyll ar eich dwylo yn y dŵr
3. Gwella technegau rhodli a goroesi personol
4. Nofio pellteroedd hirach wrth wneud pob un o’r pedair strôc, gan gynnwys hyd (25 metr) o’ch hoff strôc
Ton 6Nodau
1. Dysgu sut i gynhesu’n iawn ar gyfer ymarfer corff a pham
2. Dysgu sut i wneud trosben yn ôl, plymio arwyneb pen yn gyntaf a phlymio o eistedd
3. Gwella technegau goroesi personol, gan gynnwys nofio gyda dillad amdanoch
4. Nofio pellteroedd hirach wrth wneud pob un o’r pedair strôc, gan ganolbwyntio ar dechneg
Ton 7Nodau
1. Dysgu sut i blymio’n ddwfn
2. Gwella sgiliau arnofio, rhodio, troedio dŵr a chylchdroi
3. Nofio pellteroedd hirach ym mhob un o’r pedair strôc a nofio Cymysgedd Unigol
4. Nofio fel rhan o dîm mewn ras gyfnewid
Hwyl a Sgiliau
Clwb Dŵr – Ffitrwydd Ieuenctid
Mae hwn yn gwrs gwych i blant sydd wedi cwblhau’r rhaglen Dysgu Nofio, ond sydd am barhau â gweithgareddau dyfrol a chynnal neu wella eu ffitrwydd.
Mae pob strôc wedi’i chynnwys yn y cwrs hwn gan ganolbwyntio ar bellteroedd cynyddol a gwella stamina tra’n cynnal techneg strôc. Mae hwn yn ddechrau gwych ar gyfer datblygu ffitrwydd dyfrol gydol.

Clwb Dŵr – Aqua Allsorts

Ein clwb ieuenctid yn y pwll! Mae hwn yn gwrs gwych i blant sydd wedi bod drwy’r rhaglen dysgu nofio, wedi diflasu ar hyfforddiant lôn ond eisiau parhau â gweithgareddau dyfrol.

Mae gweithgareddau drwy gydol y cwrs yn amrywio ac yn cynnwys hyfforddiant achub bywyd/diogelwch dŵr, polo dŵr bach, noson ras hwyliog gydag ychydig o hyfforddiant strôc a thechneg yn cael ei daflu ymhen rhai wythnosau i gadw sgiliau a stamina a gaffaelwyd eisoes drwy’r brif raglen wersi.

Mae’n cŵl yn ein pwll!

Gweithgareddau’n cynnwys:
– Ffitrwydd 
– Paratoi ar gyfer ymarfer corff
– Ymarferion pwysau corff
– Maeth ar gyfer perfformiad ymarfer corff
– Nofio
– Sgiliau a strôc a gwmpesir yng nghamau diweddarach Ysgol Ddŵr
– Nofio ar gyfer iechyd a ffitrwydd
– Rasio unigolion/tîm
– Cwrs rhwystrau sy’n cyfuno sgiliau
– Defnyddio cymhorthion nofio (esgyll ac ati). DS Nid yw’n cynnwys snorcelio ar hyn o bryd
– Achub Bywydau
– Ystumiau HELP a Haid
– Achub Taflu
– Cyrraedd o’r Ochr gyda Chymorth Achub
– Cario/nôl eitem, gyda phartner
– Cwrs rhwystrau sy’n cyfuno sgiliau
– Cydamseru
– Cydamseru wedi’i gysoni a pherfformiad sgiliau (dan ddŵr, arnofio, gwthio a llithro ac ati) mewn grwpiau bach
– Polo/Pêl-fasged Dŵr
– Ymarfer sgiliau – Taflu, Dal ac ati. Polo/Pêl-fasged Dŵr wedi’i Addasu

Clwb Dŵr – Strôc/Techneg
Mae ein dosbarth techneg strôc ar gyfer y rhai y tu hwnt i Gam 7 yn gyfle gwych i ddatblygu techneg strôc, stamina a ffitrwydd o ansawdd pellach. I gyd wedi’u cyflwyno mewn awyrgylch hwyliog a chyfeillgar, heb yr her o ddechrau’n gynnar a threfn hyfforddi drylwyr.
Achub Bywydau

RLSS Dechreuwyr Efydd
Dechreuwyr – gwersi achub bywydau ar gyfer plant! Efydd yw’r lefel mynediad i’r rhaglen wobrwyo achub bywydau wych hon i blant. Wedi’i gynllunio ar gyfer plant rhwng 8 a 12 oed mae’r gwobrau’n cynnig cyfle i ddilyn rhaglen sgiliau achub bywydau RLSS strwythuredig, gan gynnwys Diogelwch Dŵr, Achub, Hunan-achub ac Ymatebion Brys. Nodau Dechreuwyr yw:

– Addysgu Sgiliau Achub Bywydau
– Cynyddu Cymhwysedd Nofio
– Datblygu Sgiliau Goroesi mewn Dŵr
– Datblygu Hyder, Menter a Phenderfynu
– Datblygu Gwaith Tîm ac Arweinyddiaeth
– Cymdeithasu, dysgu sgiliau, gwneud ffrindiau, cadw’n heini ac yn iach am oes!
RLSS Dechreuwyr ArianGwobr achubwr bywyd RLSS Dechreuwyr ar lefel ganol. Mynd â sgiliau sylfaenol ymhellach a herio cyfranogwyr ar allu nofio a sgiliau achub bywydau. Ffordd wych o gymdeithasu, dysgu, cael hwyl a gwneud ffrindiau – i gyd mewn amgylchedd iach a diogel

RLSS Dechreuwyr a Meistri

Y lefel uchaf o Ddechreuwyr Achub Bywydau. Unwaith y bydd y cam hwn wedi’i gyflawni, mae plant yn llawer mwy diogel yn y dŵr ond mae ganddynt ddigon i’w ddysgu o hyd am ddiogelwch dŵr personol ac achub bywydau ac yn gyffredinol mae’n symud ymlaen i wobrau Goroesi ac Achub RLSS.

RLSS Goroesi ac Achub

Mae ein rhaglen achub bywydau a ddyfarnwyd gan yr RLSS yn her fwy i’r rhai dros 12 oed sydd wedi cwblhau Dechreuwyr Aur neu’r rhai dros 12 oed sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn achub bywydau. Mae’r cyrsiau’n baratoad gwych ar gyfer gyrfa ym maes achub bywydau a dewisir rhai plant i fod yn gynorthwywyr gwirfoddolwyr Dechreuwyr Achubwr Bywyd. Yn ogystal, o 16 oed ymlaen, gallant ddefnyddio eu sgiliau i ymgymryd â chymwysterau achub bywydau neu addysgu.
Gwersi i Blant a Phobl Ifanc

Rydym yn cynnig ystod gynhwysfawr o ddosbarthiadau nofio sy’n darparu ar gyfer plant o bob oed a gallu. 

Oherwydd COVID rydym yn cynnal rhaglen gyfyngedig ar hyn o bryd. Cysylltwch â’r Dderbynfa ar 01792 513513 i drafod gallu eich plentyn a’r gwersi sydd ar gael

Gwersi i Oedolion

Rydym yn cynnig amrywiaeth o wersi nofio i oedolion o bob gallu, i wella eu sgiliau dŵr a’u ffitrwydd. Gall fod yn anodd iawn penderfynu pa lefel gallu sy’n addas i chi – dylai’r canllaw isod fod yn help!

Hyder Dŵr

Nod y cwrs hwn yw mynd â rhywun drwy’r daith o fod yn anghyfforddus gyda bod yn y dŵr, drwodd i rywun sy’n gallu arnofio’n hyderus a dechrau gyrru eu hunain ymlaen, yn ddiogel ac yn rhwydd drwy’r dŵr. Yna, pan fyddwch yn awyddus i ddysgu nofio’r strôc, gallwch symud ymlaen i’n dosbarthiadau Oedolion sy’n Dechrau.

Dechreuwyr

Bydd pwyslais cychwynnol y lefel hon yn gweithio ar ystum y corff yn y dŵr ac yna’n datblygu, i adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer nofio a fydd yn sail i berfformiad techneg nofio gadarn. Yn ogystal â dod yn gwbl “gartrefol” ar ac o dan ddŵr, bydd y nofiwr yn datblygu rheolaeth mewn anadlu yn y dŵr ac yn dechrau arbrofi gyda’r gwahanol ddulliau o ddefnyddio’r cymalau i yrru ymlaen.

Gwella

Y ffocws yn y lefel hon yw meithrin gallu yn elfennau sylfaenol gyriant, gan ddefnyddio’r prif strociau nofio gyda phwyslais parhaus ar bwysigrwydd lliflinio’n dda a rheoli anadlu’n dda. Unwaith y cyflawnir graddau derbyniol o allu sylfaenol yn y sgiliau sylfaenol, mae’n bryd symud ymlaen i ddatblygu nofio mwy effeithlon. Mae’r lefel hon hefyd yn cydgrynhoi’r ystod ehangach o ddisgyblaethau dyfrol cysylltiedig yn ogystal â darparu ar gyfer datblygu gwell ymwybyddiaeth ac arbenigedd mewn diogelwch dŵr personol a nofio goroesi.

Uwch

Yn ogystal â datblygu’r brif strôc nofio ymhellach, mae’r categori hwn yn gyflwyniad i gamau cynnar hyfforddiant mewn nofio cystadleuol; yn darparu sail ar gyfer nofio fel rhan o ffordd iach o fyw; ac yn parhau gyda gweithgareddau mwy datblygedig yn y disgyblaethau eraill. Mae datblygiad y don nofio aerobig sylfaenol a chyflymder nofio wedi’u hintegreiddio o fewn y Rhaglen.

Mae’r cam hwn hefyd yn canolbwyntio ar atgyfnerthu techneg effeithiol, y sgiliau rasio sy’n gysylltiedig â nhw ac ystod addas o ddriliau ac arferion. Mae’r camau olaf yn cyflwyno agweddau mwy ymestynnol ar ddatblygu hyfforddiant.

Dosbarthiadau Ffitrwydd Dŵr

Mae rhywbeth i bawb yn y rhaglen hon p’un a ydych newydd ddechrau ar y daith i weithgareddau dŵr neu os ydych yn hyfforddi nofio’n ddifrifol ar gyfer eich hun neu gystadleuaeth. Rydym yn adolygu ac yn datblygu’r sesiynau a gynigiwn yn barhaus i sicrhau y gallwch wneud y gorau o’ch Pwll Cenedlaethol.

Mae gennym lawer o gwsmeriaid yn dychwelyd wythnos ar ôl wythnos i elwa o’r hyfforddiant gwych ac i ymarfer gyda ffrindiau – hen a newydd! Os ydych chi’n mwynhau Triathlon, Nofio Ffitrwydd, Aerobeg Dŵr neu unrhyw chwaraeon dŵr, mae gennym ddosbarth i’ch cadw’n heini – sy’n dda i’r corff a hyd yn oed yn well i’r meddwl.

Pan fyddwch yn ymweld â ni, cofiwch ddod â photel ddŵr i’ch ail-hydradu’n synhwyrol a rhoi gwybod i’r hyfforddwr am unrhyw newidiadau i’ch iechyd neu anafiadau neu gyflyrau newydd a allai effeithio ar eich cyfranogiad neu ddiogelwch.

Swim 4 Tri

Ymunwch â ni a dechreuwch eich taith driathlon heddiw.
P’un a ydych chi’n ddechreuwr sy’n awyddus i roi cynnig ar eich triathlon cyntaf neu’n driathletwr rheolaidd, mae Swim4Tri ar eich cyfer CHI. Mae Swim4Tri yn wych ar gyfer gwella eich ffitrwydd nofio a’ch techneg yn barod ar gyfer y dip oer hwnnw i’r môr a bydd yn eich gadael yn teimlo’n gryfach ac yn fwy medrus.

Mae sesiynau Swim4Tri yn addas ar gyfer pob safon gallu p’un a ydych yn newydd i driathlon, yn hyfforddi tuag at ddigwyddiad penodol neu’n gystadleuydd rheolaidd. Byddwn yn sicrhau eich bod yn hyfforddi ar y lefel gywir, drwy hyfforddiant o’r ansawdd gorau a phwyslais ar gywiro techneg, ar gyfer pob agwedd ar driathlon.

Ymarfer Corff yn y Dŵr

Mae Ymarfer Corff yn y Dŵr yn ddosbarth aerobeg dŵr hwyliog sy’n eich helpu i gadw’n heini heb roi straen ar eich corff. Gwryw neu fenywaidd, mae ein dosbarthiadau’n addas i bob oedran a gallu. Gyda chymorth yr hyfforddwyr, gallwch wneud y dosbarth mor hawdd neu mor anodd ag y dymunwch.

Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud am Aquacise…
Ffordd hwyliog o gadw’n heini heb ofni anaf
Ymarfer gwych i gerddoriaeth gyda ffrindiau
Mae’r dŵr yn helpu’r corff
Ymdeimlad anhygoel o lesiant sy’n aros ymhell ar ôl i sesiwn orffen
Ymarfer gwych i y gallwch ei deilwra i’r lefel a ffefrir gennych.

Sesiynau Ffitrwydd i Oedolion

Mae’r sesiwn hon yn rhoi cyfle i oedolion/nofwyr hŷn sydd yn rhagori ar y lefel uwch ddatblygu eu gallu nofio at ddibenion ffitrwydd neu gystadleuaeth. Mae’r sesiynau’n canolbwyntio ar atgyfnerthu techneg effeithiol i waith stamina pellter hirach, y sgiliau rasio sy’n gysylltiedig â’r strôc ac ystod addas o ddriliau ac arferion. Mae’r sesiynau’n cynnwys agweddau mwy dwys ar ddatblygu hyfforddiant.

Mae dwy lefel o ddosbarth Ffitrwydd Oedolion, Ffitrwydd Oedolion Dechreuwyr a Chanolradd/Uwch.

Nod ein sesiynau dechreuwyr yw adeiladu ffitrwydd a strôc, gan ddefnyddio ystod o dechnegau, driliau a sesiynau ymarfer corff. Mae’r dosbarth yn cael ei gynnal dros bellter o 25m. Maent yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd wedi cael gwersi gwella/lefel unigolyn sy’n gwella, sy’n gallu nofio o leiaf 25m o nofio yn eich blaen, ond nad ydynt yn teimlo’n hyderus yn nofio yn y pwll 50m.

Nod ein sesiynau canolradd yw adeiladu ar ffitrwydd a gallu presennol, adolygu techneg ymhellach a nodi cynlluniau hyfforddi i gyflawni nodau personol neu anghenion hyfforddi penodol ac fe’u darperir yn y pwll 50m.

Ym mhob sesiwn byddwch yn derbyn:-

  • Sesiwn dan arweiniad Hyfforddwr
  • Pwyntiau hyfforddi ar dechneg strôc a sgiliau
  • Ymarfer gwych
  • dewis arall yn lle clwb nofio meistr
  • y cyfle i gwrdd ag eraill a nodi partneriaid hyfforddi
Sblasio a Chwarae Dan 16 Am Ddim

Nofio am ddim i bawb dan 16 oed yn ystod sesiynau SBLASIO AM DDIM a SBLASIO GWYLIAU (rhaid cofrestru gyda ni yn y dderbynfa)

Sblasio Am Ddim

  • ddim ar gael ar hyn o bryd

Sblasio Gwyliau

  • ddim ar gael ar hyn o bryd