Nofio Am Ddim ym Mhwll Cenedlaethol Cymru Abertawe

Mae Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe yn cymryd rhan falch yn y Fenter Nofio am Ddim yng Nghymru, sy’n fenter gan Lywodraeth Cymru a weithredir mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru a Dinas a Sir Abertawe. Wedi’i lansio gyntaf yn 2003, a’i adolygu yn 2019, nod y cynllun yw helpu pobl o dan 16 oed, neu dros 60 oed, sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf wrth gael mynediad i bwll, i roi cyfle iddynt ddysgu sgil bywyd a nofio’n amlach.

Nofio Am Ddim Dan 16

Os ydych o dan 16 oed, gallwch nofio am ddim yn ystod unrhyw sesiwn gyhoeddus os oes gennych:-

  • Gerdyn PTL neu MAX (angen cofrestru o fewn WNPS)* Mae rhagor o wybodaeth am y cynlluniau hyn ar gael o’r dolenni isod.
    • https://www.swansea.gov.uk/ptl
    • https://mymaxcard.co.uk/
    • Y Cerdyn Max yw prif gerdyn gostyngiad y DU ar gyfer teuluoedd maeth a theuluoedd plant ag anghenion ychwanegol. Gall teuluoedd ddefnyddio eu Cerdyn Max mewn lleoliadau ledled y DU i gael mynediad am ddim neu am bris gostyngol.
  • Nofio am ddim i bawb dan 16
  • Sblash am ddim ar gael ar ddydd Sadwrn 14.00 – 15.00 ac yn ystod gwyliau’r Haf ar ddydd Mawrth 13.00 – 14.00 a dydd Iau 13.30 – 14.30. Archebu’n hanfodol a chyntaf i’r felin, yn amodol ar argaeledd (mae cymarebau oedolion: plant yn berthnasol). Dewch gyda’ch teulu ar gyfer y sesiwn yn y Pwll Hyfforddi neu ar eich pen eich hun gyda ffrindiau ar gyfer y sesiynau yn y pwll hollt 50m neu 25m.
  • Mae’r pwll 50m a 25m a rennir yn addas ar gyfer nofwyr cryf yn unig gan fod y pwll yn 2m o ddyfnder. Os ydych rhwng 8 ac 11 oed mae’n rhaid i chi basio prawf pwll cyn gallu cael mynediad i’r pyllau dŵr dwfn.
Nofio Am Ddim Dros 60

Nofio am ddim i bawb dros 60 oed dydd Iau 09.00 – 13.00 a dydd Sul 13.00 – 21.00 nid oes angen archebu lle, ond mae angen cofrestru

Yn ogystal â sicrhau nad yw pobl sydd angen cymorth yn wynebu rhwystrau rhag gallu cymryd rhan mewn nofio a chwaraeon a gweithgarwch dyfrol, mae Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe yn falch o dderbyn cardiau Hynt.

Cerdyn Hynt/Un Gwestai

Os ydych yn ofalwr ac yn cefnogi ymweliad person yn eich gofal sy’n talu, yna gallwch gael mynediad i’r pwll am ddim os oes gennych gerdyn Hynt. Mae gwybodaeth lawn am y cynllun ar gael yma .

Nofio Am Ddim y Lluoedd Arfog

Ydych chi’n gwasanaethu fel aelod o’r Lluoedd Arfog neu’n gyn-filwr? Os felly, mae gennych hawl i nofio am ddim os ydych wedi ymuno â’r Cynllun Disgownt Amddiffynwyr. Byddwch yn gallu nofio unrhyw bryd yn ystod oriau cyhoeddus (nid amseroedd aelodau’n unig).

Mae angen cofrestru a dim ond y cardiau Disgownt Amddiffynwyr fydd yn cael eu derbyn. Mae rhagor o wybodaeth am y Cynllun Disgownt Amddiffynwyr a sut i wneud cais am gerdyn ar gael yma