Nofio Am Ddim ym Mhwll Cenedlaethol Cymru Abertawe
Mae Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe yn cymryd rhan falch yn y Fenter Nofio am Ddim yng Nghymru, sy’n fenter gan Lywodraeth Cymru a weithredir mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru a Dinas a Sir Abertawe. Wedi’i lansio gyntaf yn 2003, a’i adolygu yn 2019, nod y cynllun yw helpu pobl o dan 16 oed, neu dros 60 oed, sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf wrth gael mynediad i bwll, i roi cyfle iddynt ddysgu sgil bywyd a nofio’n amlach.
- Nofio Am Ddim Dan 16
-
Os ydych o dan 16 oed, gallwch nofio am ddim yn ystod unrhyw sesiwn gyhoeddus os oes gennych:-
- Gerdyn PTL neu MAX (angen cofrestru o fewn WNPS)* Mae rhagor o wybodaeth am y cynlluniau hyn ar gael o’r dolenni isod.
- https://www.swansea.gov.uk/ptl
- https://mymaxcard.co.uk/
- Y Cerdyn Max yw prif gerdyn gostyngiad y DU ar gyfer teuluoedd maeth a theuluoedd plant ag anghenion ychwanegol. Gall teuluoedd ddefnyddio eu Cerdyn Max mewn lleoliadau ledled y DU i gael mynediad am ddim neu am bris gostyngol.
- Nofio am ddim i bawb dan 16
- Sblash am ddim ar gael ar ddydd Sadwrn 14.00 – 15.00 ac yn ystod gwyliau’r Haf ar ddydd Mawrth 13.00 – 14.00 a dydd Iau 13.30 – 14.30. Archebu’n hanfodol a chyntaf i’r felin, yn amodol ar argaeledd (mae cymarebau oedolion: plant yn berthnasol). Dewch gyda’ch teulu ar gyfer y sesiwn yn y Pwll Hyfforddi neu ar eich pen eich hun gyda ffrindiau ar gyfer y sesiynau yn y pwll hollt 50m neu 25m.
- Mae’r pwll 50m a 25m a rennir yn addas ar gyfer nofwyr cryf yn unig gan fod y pwll yn 2m o ddyfnder. Os ydych rhwng 8 ac 11 oed mae’n rhaid i chi basio prawf pwll cyn gallu cael mynediad i’r pyllau dŵr dwfn.
- Gerdyn PTL neu MAX (angen cofrestru o fewn WNPS)* Mae rhagor o wybodaeth am y cynlluniau hyn ar gael o’r dolenni isod.
- Nofio Am Ddim Dros 60
-
Nofio am ddim i bawb dros 60 oed dydd Iau 09.00 – 13.00 a dydd Sul 13.00 – 21.00 nid oes angen archebu lle, ond mae angen cofrestru
Yn ogystal â sicrhau nad yw pobl sydd angen cymorth yn wynebu rhwystrau rhag gallu cymryd rhan mewn nofio a chwaraeon a gweithgarwch dyfrol, mae Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe yn falch o dderbyn cardiau Hynt.
- Cerdyn Hynt/Un Gwestai
-
Os ydych yn ofalwr ac yn cefnogi ymweliad person yn eich gofal sy’n talu, yna gallwch gael mynediad i’r pwll am ddim os oes gennych gerdyn Hynt. Mae gwybodaeth lawn am y cynllun ar gael yma .
- Nofio Am Ddim y Lluoedd Arfog
-
Ydych chi’n gwasanaethu fel aelod o’r Lluoedd Arfog neu’n gyn-filwr? Os felly, mae gennych hawl i nofio am ddim os ydych wedi ymuno â’r Cynllun Disgownt Amddiffynwyr. Byddwch yn gallu nofio unrhyw bryd yn ystod oriau cyhoeddus (nid amseroedd aelodau’n unig).
Mae angen cofrestru a dim ond y cardiau Disgownt Amddiffynwyr fydd yn cael eu derbyn. Mae rhagor o wybodaeth am y Cynllun Disgownt Amddiffynwyr a sut i wneud cais am gerdyn ar gael yma