• Cofiwch lanhau’r cyfarpar ar ôl ei ddefnyddio â’r cynnyrch glanhau a ddarperir.
  • Golchwch eich dwylo neu eu diheintio’n rheolaidd.
  • Mae tywelion chwys at ddefnydd personol yn unig; defnyddiwch y papur glas a’r botel chwistrell a ddarperir i lanhau’r cyfarpar.
  • NI chaniateir bwyta yn y gampfa a dylai diodydd fod mewn poteli priodol, dim cynwysyddion â thop agored. Cofiwch lanhau’r holl ollyngiadau damweiniol ar unwaith.
  • Byddwch yn ystyriol o aelodau eraill – Ar adegau prysur, peidiwch â threulio gormod o amser ar un darn o gyfarpar. Gall gweithio gydag aelod arall rhwng setiau fod yn ffordd ddefnyddiol o leihau amser aros am beiriannau yn ystod cyfnodau prysur.
  • Dillad campfa priodol yn unig – Nid yw jîns, fflip-fflops/sandalau nac esgidiau gwaith yn ddillad campfa priodol. Gofynnir i chi adael y gampfa os nad ydych yn gwisgo dillad addas. Os byddwch chi’n tynnu esgidiau wrth ymarfer, gwisgwch nhw eto’n syth ar ôl cwblhau’r codiad.
  • Peidiwch â dod â bagiau i mewn i’r gampfa – mae gennym ddau fath o locer sydd ar gael i’w defnyddio. Loceri bach, y mae angen darn arian punt i’w defnyddio, y gellir ei gael yn ôl o droi allwedd y locer. Yn ogystal â loceri maint canolig a mawr y mae angen clo clap personol ar eu cyfer. Gellir prynu cloeon clap o dderbynfa SBSP am £5. Caiff y loceri eu gwacáu bob nos.Os oes angen, bydd cloeon clap yn cael eu tynnu, a’r cynnwys yn cael ei symud i’n storfa eiddo coll. Os byddwch am dynnu’r clo clap, neu os oes angen i ni dynnu’r clo clap, nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am ddarparu clo newydd.
  • Dylai unrhyw ffilmio at ddibenion techneg ffilmio’r unigolyn dan sylw yn unig – Os yw’n debygol y bydd aelodau eraill neu aelod o staff yn y ffrâm, gofynnwch am ganiatâd.
  • Rhowch eich pwysau yn ôl wedi ichi orffen – tynnwch yr holl blatiau oddi ar y bariau a’r peiriannau ar ôl i chi orffen eu defnyddio, a’u rhoi yn ôl yn eu lle.
  • Rhaid clirio sialc gormodol.
  • Defnyddiwch y cyfarpar mewn modd diogel – Os ydych yn ansicr am sut i ddefnyddio darn o gyfarpar, siaradwch ag aelod o’r staff.
  • ARGYMHELLIR YN GRYF i chi gael sesiwn ymsefydlu – Rydym yn cynnig sesiwn ymsefydlu llwybr carlam neu sesiwn ymsefydlu llawn i bob aelod newydd; gellir trefnu hyn trwy gym.sbsp@abertawe.ac.uk.
  • NI chaniateir hyfforddiant personol – yn anffodus, nid ydym yn cynnig y gwasanaeth hwn. Fodd bynnag, os hoffech raglen bersonol gall aelod o’r tîm eich cynorthwyo gyda hyn.
  • NI fydd  ymddygiad ymosodol, brawychus, gwrthgymdeithasol a bygythiol yn cael ei oddef, a gofynnir i chi adael y cyfleusterau.
  • Rhowch wybod i aelod o’r staff am gyfarpar sydd wedi’i ddifrodi neu os oes angen gwaith cynnal a chadw ar y cyfleusterau – rydym yn archwilio’r cyfarpar a’r cyfleusterau’n rheolaidd ond os ydych yn dod ar draws unrhyw ddifrod neu broblem, rhowch wybod am hyn i aelod o’r staff. Os nad oes aelod o’r staff ar gael, ffoniwch 07596 888878 ar Gampws Singleton a 07596 888894 ar Gampws y Bae.

CADW LLE MEWN DOSBARTH