Drwy gydol misoedd yr haf rydyn ni’n gostwng pris ein sesiynau Talu Wrth Fynd (PAYG) i ddim ond £2.50 y sesiwn.* Am y tro cyntaf erioed, bydd y cynnig hwn hefyd ar gael ym Mhwll Cenedlaethol Cymru.
Gallwch nawr fynd i’r gampfa, nofio yn y pwll 50m, ymuno â dosbarth Evolve neu chwarae gêm o denis – i gyd am £2.50 yr ymweliad yn unig.

Mae sesiynau talu wrth fynd yn berffaith i’r rhai ohonoch a hoffai ymweld â’n cyfleusterau ond nad ydych chi am ymrwymo i aelodaeth fisol. Fel arfer bydd y sesiynau hyn yn costio £5.00, felly manteisiwch ar y sesiynau ac archebwch ar gyfer mis Gorffennaf a mis Awst!

Cliciwch yma i gofrestru fel aelod PAYG. Peidiwch â phoeni, ni fydd unrhyw daliad yn cael ei gymryd nes bod sesiwn yn cael ei harchebu.

*Amodau a Thelerau’n berthnasol. Daw’r cynnig hwn i ben ar 31 Awst 2023. Nid yw’n cynnwys ioga, Pilates, badminton, pickleball a’r trac. Am ragor o wybodaeth, siaradwch ag aelod o’r tîm.