Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y cae 3G newydd ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe wedi’i gwblhau!

Ym myd pêl-droed, lle creffir ar bob cyffyrddiad a gôl, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y cae.   Mae arwyneb chwarae sy’n cael ei gynnal yn dda’n hanfodol ar gyfer y gêm (a’r chwaraewyr) i ffynnu. O’r glaswellt moethus i’r marciau manwl gywir, mae pob agwedd ar y cae newydd wedi cael ei chynllunio a’i gweithredu’n gywrain. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer llwyddiant chwaraeon – fel a welwyd yn ystod gemau amrywiol Varsity eleni!

Mae cae pêl-droed godidog nid yn unig yn gwella perfformiad y chwaraewyr mae hefyd yn gwella’r profiad cyffredinol i bawb dan sylw. Mae arwyneb slic a gwastad yn hwyluso rheoli’r bêl a symudiad llyfn, gan alluogi’r chwaraewyr i arddangos eu sgiliau i’r eithaf.

Yn ogystal â hynny, mae gwylwyr yn fwy tebygol o fwynhau’r gêm pan fydd yn cael ei chwarae ar gae o safon.  Mae apêl weledol cae moethus a sicrwydd chwarae teg yn cyfrannu at gyffro ac awyrgylch gemau pêl-droed, gan feithrin ymdeimlad o gymuned a chyfeillgarwch ymysg cefnogwyr.

Mae cwblhau’r cae yn broses sy’n mynd rhagddi sy’n ymestyn y tu hwnt i’r cam adeiladu cychwynnol. Mae angen gwaith cynnal a chadw rheolaidd i gadw’r cae yn y cyflwr gorau drwy gydol y tymor chwaraeon. Mae hyn yn cynnwys tasgau megis awyru, gor-hadu a rheoli plâu i hyrwyddo twf iach y glaswellt. Hefyd, rhaid ystyried ffactorau amgylcheddol megis amodau’r tywydd a phatrymau defnydd wrth drefnu amserlenni cynnal a chadw. Mae gan ofalwyr tiroedd rôl bwysig wrth sicrhau bod y cae yn y cyflwr gorau o dan amgylchiadau amrywiol, gan ddefnyddio offer a thechnegau arbenigol i fynd i’r afael â’r heriau penodol.

Wrth siarad am ledaenu’r cariad, daeth Cymdeithas Goed Prifysgol Abertawe draw i’r cae cyn iddo gael ei gwblhau i blannu coed. Gwnaethant osgoi’r glaw, a daeth yr haul allan wrth i’r tîm blannu coed afal, eirin a gellyg ar waelod y cae! Rydym yn ddiolchgar eu bod nhw wedi plannu’r rhain i greu perllan fechan o 7 coeden, gyda chymorth Kate o’r Orchard Project.

Mae gennym bellach y rhywogaethau canlynol sy’n rhoi ffrwythau a chynefinoedd i ni am flynyddoedd lawer i ddod:

  • Gellyg Conference
  • Gellyg Beth
  • Afalau Ynys Enlli
  • Afalau Brith Mawr
  • Afalau Ashmeads Kernal
  • Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd
  • Eirin Czar

Felly os byddwch chi yn yr ardal honno, ewch i edrych arnyn nhw a gweld sut maen nhw’n datblygu. Rydym yn edrych ymlaen at eu gweithdai sudd a jam cyntaf yn y dyfodol.

Ni fydd pwysigrwydd cwblhau’r cau 3G yn cael ei anwybyddu. Rydym yn gallu cynnig yr arwyneb perffaith i dimau berfformio arno! Mwynhewch y lluniau.