Parc Chwaraeon Bae Aberatwe

Caiff Parc Chwaraeon Bae Abertawe ei reoli gan ymddiriedolaeth hamdden nad-er-elw, Freedom Leisure, ar ran Prifysgol Abertawe a Chyngor Abertawe.

Rydyn ni ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe yn falch o’n hymroddiad a’n hymrwymiad i chwaraeon ac yn annog bywyd actif i bawb o ddechreuwyr i athletwyr elît.

Mae ein cyfleusterau o’r radd flaenaf yn amrywio o Bwll Cenedlaethol 50m Cymru Abertawe, Trac Athletau Awyr Agored, caeau aml-ddefnydd, campfa, caeau hoci a llawer mwy!

Mae ein cyfleusterau Campws y Bae yn cynnwys neuadd chwaraeon uchder llawn, ardal gemau aml-ddefnydd (MUGAs) a champfa. Gyda staff ymroddedig wrth law i helpu gyda’ch anghenion hyfforddi, ochr yn ochr ag amrywiaeth o aelodaeth a dosbarthiadau ffitrwydd, mae gan Barc Chwaraeon Bae Abertawe bopeth sydd ei angen arnoch i’ch helpu i gyrraedd eich nodau iechyd a ffitrwydd!

dod yn aelod

Porth Archebu Ymaelodwch