Cwestiynau Cyffredin
- Cwestiynau Cyffredin Cyffredinol
-
- Pwy sy’n gallu ymaelodi â Pharc Chwaraeon Bae Abertawe?
-
Mae gennym sawl math o aelodaeth i ddiwallu anghenion amrywiaeth o bobl, gan gynnwys y cyhoedd a myfyrwyr. Os hoffech ragor o wybodaeth am sut i ymaelodi, a’r mathau o aelodaeth rydym yn eu cynnig, edrychwch yma.
- Sut gallaf ganslo fy aelodaeth?
-
Rydym yn deall os bydd angen i chi ganslo eich aelodaeth. Cysylltwch â thîm y dderbynfa a fydd yn gallu eich helpu.
- Alla i rewi fy aelodaeth?
-
Caiff yr holl aelodau’r rewi eu haelodaeth am hyd at 3 mis (90 dydd) mewn cyfnod o 12 mis. Rhaid gwneud pob cais yn ysgrifenedig, am yr hyd penodol, ac ar ddiwedd y cyfnod hwn, caiff yr aelodaeth ei dadrewi.
- Sut gallaf archebu sesiwn?
-
Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar-lein am aelodaeth, gallwch lawrlwytho Ap Parc Chwaraeon Bae Abertawe ar yr App Store neu’r Play Store a defnyddio’r Ap i archebu’r cyfleusterau (badminton, pêl-fasged, sboncen, tennis bwrdd) a dosbarthiadau ffitrwydd.
Gallwch gadw lle saith niwrnod ymlaen llaw.
Os nad ydych chi’n gallu dod i ddosbarth ffitrwydd, canslwch eich lle cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda drwy’r Ap. Os nad ydych chi wedi cofrestru am aelodaeth, crëwch gyfrif drwy wefan SBSP.
- Sut gallaf roi adborth?
-
- Gall defnyddwyr roi adborth mewn sawl ffordd. Naill ai wyneb yn wyneb, drwy siarad ag un o aelodau cyfeillgar y tîm, a fydd yn gwneud cofnod o’ch adborth ar ein system.
- Gallwch e-bostio eich adborth i: enquiries.sbsp@abertawe.ac.uk neu gym.sbsp@abertawe.ac.uk
- O bryd i’w gilydd, byddwn yn e-bostio arolwg adborth at ein haelodau, a dyma’r cyfle delfrydol i ddweud eich dweud.
- Rydym ni’n croesawu eich adborth er mwyn gwella ein gwasanaeth felly byddem ni wrth ein boddau’n clywed gennych chi.
- Beth yw eich oriau agor?
-
Gallwch weld ein horiau agor diweddaraf yma.
- Ble mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe?
-
Lleolir SBSP Singleton yn uniongyrchol gyferbyn â mynedfa Ysbyty Singleton.
Parc Chwaraeon Bae Abertawe, Lôn Sgeti, Sgeti, Abertawe, SA2 8QB.
Lleolir SBSP y Bae oddi ar Ffordd Fabian, ym mloc preswyl Talacharn (gyferbyn â’r golchdy).
Campws y Bae Prifysgol Abertawe, Ffordd Fabian, Twyni Crymlyn, Abertawe SA1 8EN Am ragor o gyfeiriadau, gweler gwefan SBSP.
- Allaf roi cynnig ar y cyfleusterau cyn talu am aelodaeth?
-
Nid ydym yn cynnig sesiynau rhagflas, ond gallwch gofrestru am aelodaeth Talu wrth Fynd. Gyda’r aelodaeth hon, byddwch yn talu am y sesiwn rydych chi wedi’i harchebu yn unig, felly mae’n ffordd wych o roi cynnig ar y cyfleusterau.
- Ydych chi’n cynnig aelodaeth aml-safle?
-
Ydyn! Os oes gennych aelodau Campfa/Nofio a mwy, gallwch ddefnyddio Campfa Singleton Chwaraeon Abertawe a Champfa Chwaraeon Abertawe yn y Bae. Gallwch newid eich dewis lleoliad drwy’r ap a’r wefan i weld beth sydd ar gael ar bob safle i ddiwallu eich anghenion.
- Pwy sy’n gymwys i dalu prisiau consesiynol?
-
- Staff Prifysgol Abertawe
- Staff Dinas a Sir Abertawe
- Partneriaid/Gwragedd neu Ŵyr Staff Prifysgol Abertawe
- Partneriaid/Gwragedd neu Ŵyr Staff Dinas a Sir Abertawe
- Myfyrwyr (amser llawn) sefydliadau addysg eraill
- Plant dan 16 oed
- Aelodau’r gwasanaethau brys, tân, ambiwlans, yr heddlu, gwylwyr y glannau
- Staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
- Pobl dros 60 oed
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe
- Pobl sydd wedi cael eu hatgyfeirio i wneud ymarfer corff (gan feddyg teulu neu ymarferydd iechyd proffesiynol arall)
- Staff y Gwasanaeth Sifil
- Pasbort i Hamdden
- Deiliaid Cerdyn Max
- Aelodau presennol o’r lluoedd arfog
- Cyn-aelodau o’r lluoedd arfog
- Gofalwyr sy’n cefnogi defnyddiwr arall
Sylwch y bydd angen i bob aelod consesiynol ddarparu prawf o’i hawl i dalu’r pris consesiynol ar ei ymweliad cyntaf â’r cyfleusterau. Gall hyn gynnwys cerdyn adnabod, llythyr cyfeirio neu e-bost dilysu. Cysylltwch â’n staff yn memberships.sbsp@abertawe.ac.uk os oes gennych gwestiynau.
- Ble gallaf barcio?
-
Parc Chwaraeon Bae Abertawe
Parcio Talu ac Arddangos.Prisiau:
Cofrestredig (aelodath SBSP) Heb gofrestru Hyd at 2 Awr £0.50c £2.00 Hyd at 4 Awr £1.00 £4.00 Drwy’r Dydd £6.00 £6.00 Anogwyr Amherthnasol Amherthnasol Deiliaid Bathodyn Glas Rhydd Rhydd Cyfleusterau Campws y Bae
Gellir parcio dwy funud i ffwrdd o Ganolfan Chwaraeon y Bae. Dilynwch y system un ffordd wrth i chi gyrraedd y campws. Bydd arwyddion yn dangos y ffordd i chi pan fyddwch chi’n cyrraedd y gyffordd gyntaf. Maes parcio talu ac arddangos sydd (oni bai bod gennych chi hawliau barcio i staff y Brifysgol).Prisiau:
Hyd at 2 Awr – £1.50
Hyd at 4 Awr – £2.50
O 8am-6pm – £3.50
o 6pm-8am – £1.50
- Rwyf wedi gadael rhywbeth ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe, beth dylwn i ei wneud?
-
Peidiwch â phoeni, mae gennym wasanaeth eiddo coll. Cysylltwch â’r tîm perthnasol isod i geisio dod o hyd i’ch eitemau
Rrif Ffon E-bost Tîm Derbynfa 01792 513513 enquiries.sbsp@swansea.ac.uk Cyfleusterau Campfa & Llogi Cyfleusterau Dan Do Bay:
01792 543577
SBSP:
01792 513554gym.sbsp@swansea.ac.uk Canolfan Athletau a Hoci & Llogi Cyfleusterau Awyr Agored 01792 602400 ahc.sbsp@swansea.ac.uk - Oes ap Parc Chwaraeon Bae Abertawe?
-
Oes! Mae’r ap ar gael i’w lawrlwytho o’r App Store neu’r Play Store drwy chwilio am Swansea Bay Sports Park. Drwy’r ap, gallwch archebu a chanslo sesiynau yn y gampfa a’r pwll, gweld pa ddosbarthiadau sydd ar gael, archebu cwrt neu gallwch hyd yn oed logi cyfleusterau awyr agored.
- Beth rydych chi’n ei wneud i sicrhau bod Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn ddiogel?
-
Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau diogelwch ein haelodau a’n staff. Gallwch ddarllen ein Canllawiau i Gwsmeriaid yma.
- Cwestiynau Cyffredin Nofio
-
- Pa gynllun dysgu nofio y mae Ysgol Ddŵr yn ei ddefnyddio?
-
Mae Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe yn defnyddio fframwaith Dysgu Nofio Cymru (LTSW) Nofio Cymru. Nofio Cymru yw’r Corff Llywodraethu nofio yng Nghymru.
- Beth yw Dysgu Nofio Cymru (LTSW)?
-
Mae Dysgu Nofio Cymru yn llwybr di-dor o brofiad cyntaf babi yn y dŵr gydag oedolyn, i blant sy’n nofwyr medrus sydd â’r gallu llawn i barhau â gweithgareddau dyfrol am weddill eu hoes. Mae ganddo bedwar maes â brand pendant:
- Sgiliau Hyder Sblash – Babanod a phlant bach – cyflwyniad i’r amgylchedd dyfrol a dŵr
- Nofio Ysgol – Nofio Ysgol Cyfnod Allweddol 2
- Sgiliau Tonnau – Dysgu Nofio – dysgu a datblygu sgiliau symud a dyfrol sylfaenol
- Sgiliau – Disgyblaethau Dyfrol – datblygu sgiliau penodol yn y disgyblaethau dyfrol; nofio, polo dŵr, plymio, nofio cydamserol a hunan-achub.
- Sut mae ail-gofrestru’n gweithio?
-
Ar ôl cofrestru ar gwrs mae gennych flaenoriaeth i ailarchebu. Ar wythnos 11 neu 12, byddwch yn derbyn e-bost yn nodi pa ddosbarth rydych chi neu’ch plentyn wedi’i neilltuo ar ei gyfer. Bydd hefyd yn rhoi dyddiad cau i chi wneud unrhyw newidiadau a dyddiad cau ar gyfer talu. Os ydych yn talu erbyn y dyddiad hwn, mae eich lle chi/eich plentyn yn ddiogel. Mae llawer o gwsmeriaid yn talu cyn gynted ag y byddant yn derbyn yr e-bost gan fod y diwrnod cau yn eithriadol o brysur!
- Beth sy’n digwydd os nad yw’r diwrnod/amser a neilltuwyd yn addas i mi?
-
Os nad yw’r amser/diwrnod a neilltuwyd yn addas, gofynnwn i chi ddilyn y cyfarwyddiadau ar waelod yr e-bost, erbyn y dyddiad cau a bennwyd, er mwyn gofyn am newid. Byddwn yn cysylltu â chi pan allwn ddarparu ar gyfer hyn. Os na allwn fodloni’ch cais, byddwn yn eich ffonio i drafod dewisiadau eraill. Sylwch efallai y bydd hyn ar ôl y dyddiad cau ond bydd eich lle penodol yn ddiogel nes i ni gysylltu â chi.
- Pam na allwch chi “gadw” fy lle?
-
Oherwydd y galw mawr am ein gwersi, mae terfyn amser llym iawn ar gyfer unrhyw addasiadau i’r archeb a thaliadau. Gallai methu â dilyn y dyddiadau hyn (a nodir yn eich e-bost) olygu eich bod yn colli eich lle.
Mae gennym dros 700 o gwsmeriaid yn ein rhaglen dysgu nofio i blant. Nid yw rhai cyrsiau yn ailgofrestru am amryw o resymau. Pe byddem yn addo pob lle heb daliad, ni fyddai llawer o gwsmeriaid yn gallu gwneud newidiadau ac ni fyddem yn gallu darparu ar gyfer brodyr a chwiorydd/cwsmeriaid newydd. Er mwyn bod yn deg â phawb mae’n rhaid i ni fod yn llym iawn gydag ail-gofrestriadau.
- Mae gennych fanylion ein cerdyn credyd, felly beth am ddebydu’r cwrs nesaf yn awtomatig?
-
Yn anffodus, er ein bod yn cymryd manylion eich cerdyn pan fyddwch yn prynu, nid yw ein system archebu yn caniatáu i ni storio manylion y cerdyn.
- Sut mae cwsmeriaid newydd yn cofrestru?
-
Dylai cwsmeriaid newydd gysylltu â thîm ein derbynfa er mwyn i ni weld a ellir eich rhoi ar y rhestr aros neu a oes angen asesiad arnoch. Bydd asesiad yn eich galluogi i gael eich rhoi ar y rhestr aros gywir gan ei bod yn anodd iawn gwneud newidiadau unwaith y bydd cwrs yn dechrau a gallai eich plentyn ddod i ddosbarth uwchben neu islaw ei allu heb gael un. Mae’n bwysig eich bod yn cadw gafael ar eich slip asesu. Unwaith y byddwch ar y rhestr aros, byddwch yn cael e-bost unwaith y bydd cwsmeriaid presennol wedi cael eu lle.
- Pryd mae Nofiwr yn Ennill Dyfarniad?
-
Rhaid i fyfyriwr basio POB canlyniad ar gyfer y Cam Ton neu RLSS hwnnw cyn iddo ennill dyfarniad. RHAID cyflawni’r canlyniadau i safon a bennir gan y Corff Llywodraethu ar gyfer y cynllun addysgu. Rhoddir ffurflenni adroddiad disgyblion ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau ail-gofrestru yn ystod yr wythnos gyntaf a rhoddir tystysgrifau ar wythnos olaf y cwrs.
- Pan fydd fy mhlentyn yn ennill dyfarniad ac yn symud i fyny, a fydd lle iddo neu iddi?
-
Bydd WNPS yn gwarantu lle i bob plentyn sydd eisoes yn y system, fodd bynnag, ni allwn warantu addasrwydd pob diwrnod, amser a chwrs a gynigir os yw eich plentyn yn symud i fyny.
- Pa ddull cyfathrebu ydych chi’n ei ddefnyddio i roi gwybod i ni am newidiadau a gwybodaeth bwysig arall?
-
Trwy e-bost, Twitter, Facebook, Instagram, ein hysbysfyrddau, aelodau o staff, ac yn achlysurol iawn drwy lythyr.
- Beth ddylwn i ei wneud os oes gennyf gyflwr meddygol?
-
Mae’n eithriadol o bwysig mewn amgylchedd pwll nofio i sicrhau eich bod yn ddiogel tra’n cael hwyl. Os oes gennych unrhyw gyflwr meddygol a allai effeithio ar eich cyfranogiad neu ddiogelwch, yna mae’n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod i achubwr bywyd, neu os ydych yn mynychu sesiwn wedi’i staffio, i roi gwybod i’r hyfforddwr. Mae hyn ar gyfer ein holl sesiynau o Sblasio a Chwarae hyd at y cwrs hir mwy heriol Sesiwn Swim 4 Tri. Mae hefyd yn bwysig iawn rhoi gwybod i hyfforddwr os ydych yn mynychu unrhyw sesiwn ffitrwydd, os ydych yn feichiog gan y gall rhai ymarferion corff dyfrol fod yn niweidiol i feichiogrwydd.
- Mae fy mhlentyn ar fin dechrau gwersi nofio, beth ddylwn i ei gofio?
-
- Yn bwysicaf oll, peidiwch ag anghofio dweud wrthym a oes gan eich plentyn unrhyw gyflyrau meddygol neu anghenion addysgol arbennig. Mae bob amser yn ddefnyddiol cael hyd yn oed y darn lleiaf o wybodaeth i’n helpu i ddarparu’r hyfforddiant gorau posibl i’ch plentyn.
- Rhaid clymu gwallt hir yn ôl a chlipio rhimyn hir yn ôl, mae hetiau nofio yn ddelfrydol.
- Peidiwch â’u hanfon mewn bicini neu siorts llac – maent yn rhwystro eu cynnydd. Os oes angen dillad nofio priodol ar eich plentyn, mae gennym rai opsiynau hyfryd ar gael i’w prynu yn y Dderbynfa.
- Ar ddiwedd pob gwers bydd eich athro/athrawes yn ymdrechu i roi adborth byr i chi. Os nad ydynt yn eich cyrraedd am unrhyw reswm, mae croeso i chi gysylltu â nhw os oes rhywbeth yr hoffech ei drafod.
- Mae angen presenoldeb rheolaidd ar gyfer datblygiad da. Mae dysgu nofio yn wers ac fel pob gwers, mae ymarfer yn hanfodol – bydd amser yn y dŵr ar ôl ysgol neu ar benwythnosau yn help mawr.
- Ar rai wythnosau bydd eich plentyn yn mynd i ddŵr dyfnach i gynorthwyo gyda’i ddatblygiad a’i herio rhyw fymryn. Efallai y bydd hyn yn frawychus i rai, ond peidiwch â phoeni am hyn, byddant yn cael y cymorth hynofedd priodol lle bo angen a byddwn yn gofalu amdanynt yn ofalus iawn.
- Mae wythnos olaf y cwrs yn wythnos hwyliog, yn wobr am waith caled drwy gydol y cwrs. Er bod y sesiwn hon yn ymddangos yn llai strwythuredig, byddant yn dysgu sgiliau newydd fel symudiadau sylfaenol ar gyfer nofio cydamserol, polo dŵr bach a phlymio.
- Cwestiynau Cyffredin Chwaraeon Abertawe
-
- Fydd rhywun yn gallu dangos i mi sut i ddefnyddio’r cyfarpar?
-
Gallwch wylio ein fideo sefydlu yma neu gofynnwch i aelod o’r tîm ddangos i chi sut i ddefnyddio’r cyfarpar ar eich ymweliad nesaf.
- Sut gallaf gadw lle mewn dosbarth?
-
Gallwch gadw lle yn ein holl ddosbarthiadau drwy Ap SBSP neu’r wefan. Mae mor syml â hynny!
- Oes loceri gennych chi?
-
Mae gennym nifer cyfyngedig o loceri ar gael yn y coridorau o amgylch y campfeydd. Mae gennym hefyd dyllau colomennod yn y gampfa i storio bagiau a cotiau.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn glanhau’r loceri/tyllau colomennod ar ôl eu defnyddio.
- Oes cyfleusterau newid gennych?
-
SBSP Singleton – Oes, mae gennym ni sawl cyfleuster newid yn y Ganolfan Chwaraeon. Mae’r rhain ar y llawr gwaelod, cyn coridor y cwrt sboncen (i ddynion) ac ar y chwith cyn y fynedfa i’r gampfa (i fenywod). Ar y llawr cyntaf, mae’r ystafelloedd newid ychydig heibio cyntedd y Ganolfan Chwaraeon, y drws cyntaf ar y chwith (i ddynion) a’r ail ddrws ar y chwith (i fenywod) ar hyd y balconi. Mae gennym ni gyfleusterau newid i bobl anabl ar y llawr gwaelod gyferbyn â’r lifft.
SBSP y Bae – Oes, mae gennym ni gyfleusterau newid yng Nghanolfan Chwaraeon y Bae. Mae’r rhain drwy’r drws cyntaf ar y dde heibio’r dderbynfa (i ddynion) a’r drws cyntaf ar y chwith gyferbyn â’r ffynnon dŵr (i fenywod). Hefyd, mae gennym ni ddau doiled/ystafell newid i bobl anabl, un cyn y dderbynfa ac un yn yr ystafell gardio.
Hefyd, mae gennym ni gyfleusterau toiled/newid niwtral o ran rhyw yn ardaloedd Chwaraeon Abertawe SBSP Singleton/Bae.
Cofiwch sychu’r meinciau/ardal ar ôl eu defnyddio
- Cwestiynau Cyffredin y Ganolfan Athletau a Hoci
-
- Sut i gadw lle ar y trac dan do neu awyr agored?
-
Gallwch gadw lle ar yr ap neu drwy’r Porth Archebu. Rhaid i chi gadw lle ymlaen llaw i ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Os nad oes sesiwn ar gael, mae’n bosib bod rhywun arall wedi’i neilltuo. Os nad ydych chi’n siŵr, cysylltwch â’r tîm.
I neilltuo’r cyfleuster at eich defnydd chi yn unig, e-bostiwch y tîm yn ahc.sbsp@abertawe.ac.uk neu ffoniwch ni ar 01792 602400.
- Oes modd llogi cyfarpar?
-
Oes – mae’r holl gyfarpar i athletwyr ar gael i’w logi, ond rhaid i ddefnyddwyr dan 16 oed fod yng nghwmni hyfforddwr cymwysedig.
- Oes cyfleusterau newid gennych?
-
Oes, mae cyfleusterau newid ar gael yn adeilad y trac dan do – gofynnwch i’r staff am fynediad.
- Sut gallaf gadw lle ar y cae artiffisial?
-
Anfonwch ymholiadau am y cae artiffisial i ahc.sbsp@abertawe.ac.uk.
- Ble gallaf barcio?
-
Mae gennym ddau faes parcio yn yr AHC, trowch i mewn oddi ar Heol y Mwmbwls a gyrrwch i fyny Lôn Fferm y Cwm – côd post SA2 9AU