P’un a yw’n cynyddu ymwybyddiaeth brand, ymgysylltu â’r gymuned leol neu yrru refeniw, gallwch wella eich amcanion busnes drwy noddi cyfleusterau ym Mhrifysgol Abertawe.
Ewch ar daith rithwir o amgylch y cyfleusterau yma.
Bwrdd Hysbysebu
Cefnogwch eich hoff dîm a sicrhewch fod eich brand wrth galon y bwrlwm gyda byrddau hysbysebu ar gael ar draws ein holl gyfleusterau allanol, gan gynnwys y Trac Athletau, Caeau Rygbi a Chaeau Hoci.
Nawdd yn cynnwys:
- Bwrdd hysbysebu
- Cydnabyddiaeth brand ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Chwaraeon Abertawe
- Tocynnau gêm Varsity Cymru
Cymryd Drosodd Brand Cyfleuster
Sicrhewch fod eich brand yn amlwg ymhlith y gweddill ac yn cyrraedd ein cefnogwyr amrywiol ac angerddol yn ogystal â’r gymuned leol wrth gymryd drosodd un o’n cyfleusterau chwaraeon allweddol gyda’ch brand.
Nawdd yn cynnwys:
- Eich brand yn cymryd drosodd un o’n cyfleusterau chwaraeon allweddol
- Bwrdd hysbysebu
- Cydnabyddiaeth brand ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Chwaraeon Abertawe
- Tocynnau gêm Varsity Cymru
- Tocynnau lletygarwch Varsity Cymru
Prif Noddwr Chwaraeon Abertawe
Cefnogi Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe a dod yn Brif Noddwr brand Chwaraeon Abertawe gydag amlygiad ar draws asedau Chwaraeon Abertawe.
Nawdd yn cynnwys:
- Eich brand yn cymryd drosodd un o’n cyfleusterau chwaraeon allweddol
- Amlygrwydd brand ar arwyddion asedau Chwaraeon Abertawe
- Bwrdd hysbysebu x 2
- Cydnabyddiaeth a dolennu ar wefan Prifysgol Abertawe
- Cydnabyddiaeth brand ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Chwaraeon Abertawe
- Cynnwys brand ar lofnodion e-bost staff Chwaraeon Abertawe
- Tocynnau gêm Varsity Cymru
- Tocynnau lletygarwch Varsity Cymru
- Tocynnau Gwobrau Chwaraeon Abertawe Blynyddol
I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd noddi hyn, cysylltwch â ni drwy commercialservices@swansea.ac.uk