P’un a yw’n cynyddu ymwybyddiaeth brand, ymgysylltu â’r gymuned leol neu yrru refeniw, gallwch wella eich amcanion busnes drwy noddi cyfleusterau ym Mhrifysgol Abertawe.

Ewch ar daith rithwir o amgylch y cyfleusterau yma.

Bwrdd Hysbysebu

Cefnogwch eich hoff dîm a sicrhewch fod eich brand wrth galon y bwrlwm gyda byrddau hysbysebu ar gael ar draws ein holl gyfleusterau allanol, gan gynnwys y Trac Athletau, Caeau Rygbi a Chaeau Hoci.

Nawdd yn cynnwys:

  • Bwrdd hysbysebu
  • Cydnabyddiaeth brand ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Chwaraeon Abertawe
  • Tocynnau gêm Varsity Cymru

Cymryd Drosodd Brand Cyfleuster

Sicrhewch fod eich brand yn amlwg ymhlith y gweddill ac yn cyrraedd ein cefnogwyr amrywiol ac angerddol yn ogystal â’r gymuned leol wrth gymryd drosodd un o’n cyfleusterau chwaraeon allweddol gyda’ch brand.

Nawdd yn cynnwys:

  • Eich brand yn cymryd drosodd un o’n cyfleusterau chwaraeon allweddol
  • Bwrdd hysbysebu
  • Cydnabyddiaeth brand ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Chwaraeon Abertawe
  • Tocynnau gêm Varsity Cymru
  • Tocynnau lletygarwch Varsity Cymru

Prif Noddwr Chwaraeon Abertawe

Cefnogi Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe a dod yn Brif Noddwr brand Chwaraeon Abertawe gydag amlygiad ar draws asedau Chwaraeon Abertawe.

Nawdd yn cynnwys:

  • Eich brand yn cymryd drosodd un o’n cyfleusterau chwaraeon allweddol
  • Amlygrwydd brand ar arwyddion asedau Chwaraeon Abertawe
  • Bwrdd hysbysebu x 2
  • Cydnabyddiaeth a dolennu ar wefan Prifysgol Abertawe
  • Cydnabyddiaeth brand ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Chwaraeon Abertawe
  • Cynnwys brand ar lofnodion e-bost staff Chwaraeon Abertawe
  • Tocynnau gêm Varsity Cymru
  • Tocynnau lletygarwch Varsity Cymru
  • Tocynnau Gwobrau Chwaraeon Abertawe Blynyddol

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd noddi hyn, cysylltwch â ni drwy commercialservices@swansea.ac.uk