3G:

Mae’r prosiect 3G yn parhau i ddatblygu’n gyflym. Hyd yn hyn, mae’r contractwyr, sef South Wales Sports Grounds, wedi:

  • cwblhau cloddwaith i sefydlu lefelau newydd ar gyfer yr arwynebau chwarae.
  • gosod pilen a gosod haen gerrig i ddarparu sylfaen y 3G.
  • gosod y rhan fwyaf o’r pyst ffens, ac mae’r paneli ffens a’r rhwyd ar lefel uchel yn waith sydd ar y gweill.
  • gosod cwndid a phibellau ar gyfer gwasanaethau o amgylch y cae (trydan, data, dŵr)
  • cwblhau’r storfa.

Yn fwy diweddar, mae sylw wedi newid i osod ymylau palmantau o amgylch y cae a’r 8 postyn i’r llifoleuadau, a chreu llwybrau troed newydd i wasanaethu’r caeau, y mae pob un ohonynt bron â chael eu cwblhau.

Bydd gwaith yn parhau yn y flwyddyn newydd i baratoi’r cae ar gyfer yr haen tarmac, y pad sioc, a gosod y 3G.

Ar hyn o bryd, y dyddiad targed yw dydd Mawrth 6 Chwefror 2024. Fodd bynnag, gallai hyn newid o hyd, gan ddibynnu ar y tywydd yn ystod yr wythnosau nesaf.

Y Cae Glaswellt:

Cwblhawyd y gwaith i lefelu a hadu’r cae glaswellt isaf ddiwedd mis Hydref. Er bod yr hadau wedi dod drwodd ar draws y mwyafrif o’r wyneb, mae’r glaw trwm drwy fis Tachwedd wedi achosi rhywfaint o’r hadau i olchi i ffwrdd. Bydd y contractwyr yn mynd i’r afael â hyn ar ddechrau’r gwanwyn, pan fyddant yn bwriadu gwneud rhywfaint o waith adfer, trin ac ailhadu’r wyneb lle bo angen.

Rydym yn gobeithio cael y cae hwn yn ôl ar waith erbyn canol y gwanwyn, 2024.