Gwelliannau ar ôl adnewyddu:
Bydd y prosiect yn cyflwyno ystod o welliannau, gan gynnwys:
toeon gwastad a thoeon serth newydd wedi’u hinswleiddio
Ffenestri a goleuadau LED newydd
Systemau awyru gwell
Gosod paneli ffotofoltäig (PV)
Llawr pren newydd
Cynhelir y gwaith hwn yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf i sicrhau cynnydd cyson a tharfu cyn lleied â phosib.
Diolchwn i chi am eich amynedd a’ch cymorth wrth i ni fuddsoddi yn ein cyfleusterau chwaraeon. I gael y newyddion diweddaraf yn ystod y prosiect, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol, ewch i’n gwefan neu lawrlwythwch ap Parc Chwaraeon Bae Abertawe.
Beth i’w ddisgwyl:
• Bydd y neuadd chwaraeon ar gau o 27 Mai tan fis Rhagfyr 2025. Mae pob archeb yr effeithir arni wedi cael gwybod yn uniongyrchol, ac rydym yn gweithio i adleoli sesiynau lle bo modd.
• Bydd y gampfa, y Pwll Cenedlaethol, a’r Ganolfan Athletau a Hoci yn parhau ar agor yn llwyr drwy gydol y prosiect.
• Bydd rhai lleoedd parcio i bobl anabl yn cael eu hadleoli dros dro i ogledd maes parcio’r cwsmeriaid. Cyfeiriwch at fap y safle.
• Gall gwaith adeiladu arwain at lefelau sŵn uwch o amgylch y neuadd chwaraeon yn ystod oriau gwaith. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n contractwr i leihau’r aflonyddwch.
Cwestiynau Cyffredin
Beth yw’r amserlen ar gyfer prosiect adnewyddu’r neuadd chwaraeon?
Bydd y prosiect yn dechrau ar 27 Mai a disgwylir iddo gael ei gwblhau ar ddiwedd 2025.
A fydd modd defnyddio’r neuadd chwaraeon yn ystod cyfnod y prosiect?
Na, bydd y neuadd chwaraeon ar gau drwy gydol y prosiect, ond nid effeithir ar y cyfleusterau eraill ar y safle.
Sut bydd y prosiect yn effeithio ar gyfleusterau parcio?
Bydd y lleoedd parcio ar gyfer yr anabl yn cael eu symud dros dro i ogledd y maes parcio i gwsmeriaid, fel y nodir ar y map o’r safle isod. Sylwer y bydd hyn yn effeithio ar nifer y lleoedd parcio cyffredinol ar y safle.
Ble gallaf barcio os oes angen lle parcio ar gyfer yr anabl arnaf?
Mae lleoedd parcio amgen ar gyfer yr anabl ar gael yng ngogledd y maes parcio i ymwelwyr, fel y nodir ar y map o’r safle isod.

A fydd y prosiect yn effeithio ar gael mynediad at y cyfleusterau eraill?
Bydd modd cael mynediad at y gampfa, Pwll Cenedlaethol Cymru a’r Ganolfan Hoci ac Athletau o hyd.
Pa welliannau sy’n cael eu gwneud i’r neuadd chwaraeon?
Bydd y prosiect yn gwneud llawer o welliannau i adeiladwaith yr adeilad gan gynnwys gosod toeon gwastad a thoeon serth newydd sydd wedi’u hinsiwleiddio, ffenestri newydd, goleuadau LED newydd, awyru newydd, gosod paneli ffotofoltaidd (PV) newydd a gosod llawr pren newydd.
Rydw i wedi gwneud archeb i ddefnyddio’r neuadd chwaraeon. Sut bydd y prosiect yn effeithio ar hyn?
Mae’r holl bartïon y mae’r prosiect hwn yn effeithio arnynt wedi cael gwybod am y prosiect a sut y mae’n effeithio ar eu harcheb. Mae ein timau’n gweithio’n galed i adleoli archebion pan fo’n bosibl.
Pam bod y prosiect yn cael ei gynnal nawr?
Rydym wedi trefnu i gynnal y prosiect yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf er mwyn manteisio ar y tywydd gwell, gan sicrhau y gwneir cynnydd cyson gyda chyn lleied o darfu â phosib.
 phwy y gallaf gysylltu am ragor o wybodaeth?
Os oes gennych ymholiadau, e-bostiwch: campusdevelopment@abertawe.ac.uk