Ffair y Glas yw eich cyflwyniad iawn cyntaf i’r brifysgol fel myfyriwr newydd, ac eleni roedd yr un mor boblogaidd ag erioed. Os hoffech chi ddarllen rhagor am lwyddiant Ffair y Glas eleni, darllenwch ymlaen!

P’un a ydych chi wedi symud yn bell o gartref, i ffwrdd o ffrindiau a’r teulu, rydym ni yma i’ch helpu i bontio i fywyd fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe. Y brifysgol yw’r cyfle gorau i wneud ffrindiau gydol oes ac atgofion fyddwch chi byth yn eu hanghofio, ac mae digwyddiad Ffair y Glas blynyddol yn ddigwyddiad na allwch ei golli.

Mae Ffair y Glas yn ddigwyddiad deuddydd a gynhelir fel arfer yn Neuadd Chwaraeon Canolfan Chwaraeon Singleton ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe. Mae’r Neuadd Chwaraeon yn llawn stondinau ac wynebau cyfeillgar i roi gwybodaeth i chi am amrywiaeth eang o gymdeithasau ym Mhrifysgol Abertawe, gan eich helpu chi i gael y mwyaf y gallwch chi o’ch profiad drwy eich helpu i gwrdd â phobl o’r un meddylfryd. Amcan y Ffair yw rhoi i bobl gymaint o ragflas â phosib o’r cymdeithasau a’r digwyddiadau gallant ymuno â nhw, boed yn Chwaraeon, Gwleidyddiaeth, Hanes neu Gerddoriaeth – yn bendant bydd gan Undeb y Myfyrwyr gymdeithas at eich dant chi! Y peth gorau? Bydd pobl yn dosbarthu anrhegion am ddim!

Eleni, fel bob blwyddyn, roedd Ffair y Glas yn llwyddiant enfawr. Rydym ni’n ddigon ffodus i gael y pleser o groesawu myfyrwyr newydd a hen fyfyrwyr drwy ein drysau, a dangos y cyfleusterau iddyn nhw. Y llynedd, roedd gennym ni stondin gweithgareddau yn yr awyr iach lle bu’n rhaid i bobl daflu nifer benodol o beli basged i rwyd mewn 30 eiliad i ennill gwobr. Agwedd arall ar y stondin oedd cystadleuaeth codi pwysau lle’r oedd yn rhaid i bobl ddal pwysau am 30 eiliad i ennill gwobr. Roedd y gwobrau’n cynnwys nwyddau Parc Chwaraeon Bae Abertawe newydd sbon, megis agorwyr poteli, fflip fflops, poteli a bagiau cotwm, a hyd yn oed tocynnau ar gyfer dau enillydd i weld yr Elyrch – byddai dweud bod yr enillwyr yn falch iawn yn tan-ddweud! Nid oedd gennym ni stondin gweithgareddau yn yr awyr agored eleni, ond gwnaethom ni sicrhau y cafodd pawb yr hyn roedden nhw am ei gael o’r stondin, sef nwyddau newydd a digon ohonynt! Rydym ni mor  falch o sut daeth y bagiau llinyn tynnu a’r capiau at ei gilydd oherwydd eu bod nhw’n ychwanegiadau gwych at beth mae pobl yn eu defnyddio a’u gwisgo wrth ymweld â’r gampfa.

Un peth mae’n rhaid ei grybwyll am Ffair y Glas yw’r awyrgylch. O gemau llawn hwyl a danteithion blasus am ddim i ddawnswyr ariel a’r Gymdeithas DJ yn chwarae’r caneuon gorau (a mwy), rhaid i chi gerdded o amgylch stondinau Ffair y Glas i ddeall yn union yr hyn sydd gan Brifysgol Abertawe i’w gynnig i fyfyrwyr newydd!

Os daethoch chi i Ffair y Glas eleni, wnaethoch chi ymweld â stondin Parc Chwaraeon Bae Abertawe? Rydym ni bob amser yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â’r gampfa a phrofi’r cyfleusterau. Fel arfer yn Ffair y Glas, rydym ni’n sicrhau bod rhywun o Barc Chwaraeon Bae Abertawe (SBSP) bob amser ar gael i helpu pobl i archwilio’r cyfleusterau ac rydym ni wrth ein boddau’n dangos y stiwdios ymarfer corff ac yn arddangos cyfarpar sydd ar gael i aelodau. Am £16 y mis, mae gennym ni un o’r opsiynau aelodaeth i fyfyrwyr mwyaf cystadleuol sydd ar gael. Neu, os ydych chi am arbed arian, gallwch chi ddewis prynu’r aelodaeth 3 mis am £45 – am fargen!

Dylem ni hefyd amlygu’r ffaith bod cynigion gwych i fyfyrwyr ar gael ym Mhwll Cenedlaethol Cymru hefyd.

Fel bob amser, rydym ni’n falch ac yn ddiolchgar am allu cynnal y digwyddiad hwn yn ein cyfleuster, lle rydym ni’n dyst i bobl yn meithrin cyfeillgarwch ac atgofion arbennig. Os daethoch chi i ymweld â ni, diolch! Gobeithio i chi fwynhau Ffair y Glas a dysgu rhagor am yr opsiynau iechyd a ffitrwydd gwych ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe. Os ydych chi neu unrhyw un rydych chi’n ei adnabod â diddordeb mewn / yn meddwl am ymuno â’r gampfa, cysylltwch â ni! Gallwch weld ein hopsiynau aelodaeth yma, ac mae croeso i chi gysylltu â thîm Parc Chwaraeon Bae Abertawe os hoffech chi ddod i weld y cyfleusterau.