Mae ymarfer corff mewn grŵp wedi datblygu’n fwyfwy poblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf, ac a ydych chi’n rhyfeddu? Mae’n gymaint o hwyl!! Boed yn ddosbarth troelli, sesiwn ioga neu ymarfer corff bwtcamp, mae ymarfer corff mewn grŵp yn ffordd gymdeithasol a llawn hwyl i gadw’n heini. Ond mae mwy iddo nag agwedd gymdeithasol yn unig! Dyma rai o fanteision ymarfer corff mewn grŵp:

1. Cymhelliad

Mae ymarfer corff gydag eraill yn gymhelliad gwych, yn enwedig os ydych chi wedi blino neu heb lawer o egni. Mae gan ddosbarthiadau ymarfer corff mewn grŵp ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe gerddoriaeth fywiog, hyfforddwyr llawn brwdfrydedd ac ymdeimlad o gyfeillgarwch sy’n gallu eich ysgogi yn ystod sesiwn galed. Felly os ydych chi’n chwilio am ychydig o gymhelliad, edrychwch ar ein hamserlenni dosbarth a chadwch eich lle!

2. Atebolrwydd

Pan fyddwch yn ymrwymo i ddosbarth ymarfer corff mewn grŵp, rydych yn fwy tebygol o fynd a chyflawni eich sesiwn a fydd yn eich helpu i wneud yn fawr o’ch sesiwn ymarfer corff. Serch hynny, er bod atebolrwydd am sesiwn ymarfer corff yn ffordd i chi aros ar y llwybr cywir gyda’ch ffitrwydd, mae gwybod bod eraill yn dibynnu arnoch yn gallu eich ysgogi a’ch cynnal ar eich nodau ffitrwydd . Os ydych eisiau arweiniad ar barhau i fod yn atebol, cysylltwch â’r tîm a byddwn yn fwy na hapus i rannu ein hawgrymiadau gorau!

3. Amrywiaeth

Mae dosbarthiadau ymarfer corff mewn grŵp yn cynnig amrywiaeth eang o sesiynau a gweithgareddau, a all eich helpu i gadw eich sesiynau ffitrwydd yn ffres ac yn ddiddorol. O hyfforddiant ar sail cyfnodau dwys (HIIT) i ioga a philates mae rhywbeth i bawb ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe. Peidiwch ag anghofio bod Pwll Cenedlaethol Cymru ar y safle gyda phwll 50 metr o’r radd flaenaf. Felly, os ydych am fynd i nofio, ewch draw i’r pwll. Gallwch gynnwys hyn yn eich amserlen hefyd gyda hyblygrwydd sesiynau talu wrth fynd.

4. Cymdeithasu

Mae ymarfer corff mewn grŵp yn ffordd wych i chi gwrdd â phobl newydd a chwrdd â ffrindiau â diddordebau tebyg, offitrwydd gweithredol i cardio – ac mae gennym hefyd y cyfleusterau athletau a hoci ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe. Os ydych yn newydd i’r ardal neu am ehangu eich grŵp cymdeithasol, mae dosbarthiadau ymarfer corff mewn grŵp yn cynnig amgylchedd croesawgar a chynhwysol.

Yn gyffredinol, mae ymarfer corff mewn grŵp yn cynnig ffordd llawn hwyl, ysgogol ac effeithiol i gadw’n heini ac iach.Beth am ofyn i ffrind ddod gyda chi a rhoi cynnig ar ddosbarth heddiw?Ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe, mae gennym amserlen o ddosbarthiadau ymarfer corff ar Gampws Singleton a Champws y Bae, gan wneud y Parc Chwaraeon yn hawdd i chi ryddhau eich endorffinau a chyflawni eich nodau.